Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 6 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 2:05, 6 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

A gaf i droi at—[Torri ar draws.] Ie, rwy'n gwybod. A gaf i droi at faterion cyfansoddiadol? Roedd maniffesto'r Blaid Lafur yn 2017 yn cynnwys ymrwymiad i ddatganoli plismona i Gymru. Fe wnaeth comisiwn Silk, a sefydlwyd gan weinyddiaeth dan arweiniad y Ceidwadwyr, ei argymell yn 2014. Fe wnaeth comisiwn Thomas eich Llywodraeth eich hun argymell datganoli plismona a chyfiawnder yn eu cyfanrwydd, a dywedodd maniffesto'r Blaid Lafur yn 2017 y byddai'r Llywodraeth Lafur yn gweithio gyda chi i ddefnyddio'r adroddiad hwnnw i drwsio system gyfiawnder sy'n methu yng Nghymru. Mae argymhelliad Comisiwn Brown i ddatganoli cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf yn unig yn mynd â ni'n ôl 10 mlynedd yn y ddadl ddatganoli yng Nghymru. Ond anghofiwch am y wleidyddiaeth, beth am y canlyniadau yn y byd go iawn? Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru newydd ddweud bod canlyniadau cyfiawnder troseddol yng Nghymru gyda'r gwaethaf yn Ewrop. Pa gyfiawnhad moesol posibl sydd dros adael y pwerau hynny yn San Steffan funud yn hwy nag sydd rhaid, a hwythau'n achosi'r fath ddioddefaint ym mywydau cynifer o bobl?