Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 6 Rhagfyr 2022.
Llywydd, fel yr eglurais i ar lawr y Senedd yr wythnos diwethaf, nid yw'r cyfrifoldeb dros wasanaethau ariannol, gan gynnwys bancio, wedi'i ddatganoli i'r Senedd. Er na all Llywodraeth Cymru, felly, sicrhau bod banciau ar gael, rydym ni'n gweithio gyda'r rhai sy'n gallu gwneud hynny. Mae hyn yn cynnwys darparu gwasanaethau arloesol, fel hybiau bancio ar y cyd a'n cynlluniau ein hunain ar gyfer banc cymunedol.