Part of the debate – Senedd Cymru am 5:19 pm ar 6 Rhagfyr 2022.
Diolch, Llywydd. Nid yw ocso-ddiraddadwy wedi ei gostio, felly yn syml dyma'r sefyllfa, a yw Gweinidogion Cymru'n credu ei bod yn dderbyniol cynnwys deunydd sydd heb ei gostio, un y maen nhw'n cyfaddef sydd angen mwy o ymchwil. Rydym wedi cynnig cyfaddawd trwy fewnosod 'ocso-ddiraddadwy' yn adran 4, ac mae hyn o bosibl yn atal her gyfreithiol yn erbyn Llywodraeth Cymru, felly fe fyddaf yn cynnig y gwelliannau hynny.