2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 6 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:37, 6 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Mae dau ychwanegiad at yr agenda heddiw. Yn ddiweddarach y prynhawn yma, bydd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn gwneud datganiad ar ddiwygio bysiau. Ac yn ail, rwy'n gwybod eich bod nawr wedi rhoi caniatâd i Gyfnod 4 o'r Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) gael ei gynnig ar ôl cwblhau Cyfnod 3 yn ddiweddarach heddiw. Mae busnes drafft ar gyfer y tair wythnos eistedd nesaf wedi'i nodi ar y datganiad busnes a'r cyhoeddiad, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.