Part of the debate – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 6 Rhagfyr 2022.
Gweinidog, mae ymgyrch gynyddol yng Nghymru nawr, dan arweiniad pum elusen lles anifeiliaid, yn galw am wahardd rasio milgwn. Mae'r Dogs Trust, Blue Cross, Greyhound Rescue Wales, Hope Rescue a'r RSPCA yn credu ar y cyd fod rasio milgwn yn achosi dioddefaint creulon ac echrydus i'r cŵn. A wnaiff y Gweinidog sicrhau datganiad ysgrifenedig yn cadarnhau sefyllfa Llywodraeth Cymru ar rasio milgwn, os ydyn nhw wedi cwrdd â'r pum sefydliad hyn, a pha gamau y gallen nhw eu cymryd i fynd i'r afael â'r mater o les anifeiliaid hanfodol hwn? Diolch.