5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Diwygio Bysiau

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:40 pm ar 6 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 3:40, 6 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Felly, wrth i ni edrych ar wyddoniaeth noeth newid hinsawdd, ac wrth i ni ystyried cyngor Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd, nid yw'r trosglwyddiad at geir trydan yn ddigon. Mae angen i ni fod â llai o deithio mewn ceir a newid dulliau teithio o ddibyniaeth ar geir i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Ar gyfer cyrraedd sero net, mae'n rhaid i ni gydnabod canologrwydd y system fysiau. Mae bysiau yn cario tri chwarter o deithiau trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru eisoes, felly mae angen i ni roi llawer mwy o sylw i'r system fysiau os ydym ni'n dymuno cyrraedd ein nodau cyfreithiol ymrwymol ni. Mae'n rhaid i ni wynebu'r ffaith bod y system fysiau masnachol, darniog sydd wedi'i phreifateiddio sydd gennym ni ar hyn o bryd yn ei gwneud hi'n amhosibl i ni gyflawni ein huchelgais ni o wneud teithio ar fysiau y ffordd rwyddaf a mwyaf deniadol o deithio bob dydd.

Dirprwy Lywydd, rwy'n falch bod y bobl a ymatebodd i'n hymgynghoriad ni ar y Papur Gwyn wedi cytuno â ni. Rydym ni wedi cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwnnw heddiw, sy'n dangos bod 96 y cant o'r ymatebwyr wedi cytuno bod angen i ni newid y ffordd yr ydym ni'n darparu gwasanaethau bws ar gyfer diwallu anghenion pobl ac ymateb i'r argyfwng hinsawdd. Mae gennym ni lawer o weithredwyr bysiau yng Nghymru sy'n gwneud eu gorau i gynnal eu gwasanaethau, yn enwedig y gweithredwyr bychain hynny sy'n gweithio i sicrhau bod eu cymunedau yn parhau i fod â chysylltiadau. Er hynny, maen nhw'n gweithio mewn system a gynlluniwyd i drin teithiau bws fel nwydd yn hytrach na gwasanaeth cyhoeddus. Er eu bod nhw'n dibynnu ar gannoedd o filiynau o bunnoedd o gyllid cyhoeddus yng Nghymru, fe all gweithredwyr preifat barhau i ddewis pa wasanaethau y maen nhw'n dymuno eu rhedeg, gan adael awdurdodau lleol i dalu'r bil am ddarparu gwasanaethau i leoliadau mwy gwledig a llai manteisiol yn ariannol. Hyd yn oed gyda'r gefnogaeth hon, ledled y DU, mae prisiau tocynnau bysiau wedi codi gan 403 y cant ers 1987, o'i gymharu â dim ond 163 y cant ar gyfer costau gyrru.

Yn hytrach na hynny, rydym ni'n cynnig rhoi pobl o flaen elw a dod â chynllunio a diogelu gwasanaethau bysiau dan reolaeth gyhoeddus unwaith eto. Mae hyn yn golygu y gallwn ni weithio gyda chymunedau i ddylunio'r rhwydwaith bysiau gorau posibl gyda'r cyllid sydd ar gael gennym ni a chynllunio'r gwasanaethau i wella eu cwmpas yn hytrach na chystadlu am neu ddewis a dethol yr ardaloedd sy'n gwneud yr elw mwyaf. Mae hynny'n golygu y gallwn ni gydlynu'r gwasanaethau, fel gall pobl gyrraedd eu cysylltiadau â threnau neu gyda bysiau eraill yn rhwydd ac yn ddi-dor a chyrraedd eu cyrchfannau, gyda'r holl wybodaeth ar gael i deithwyr sydd ei hangen arnyn nhw yn rhad ac am ddim ac yn yr un lle. Ac mae hynny'n golygu y gallwn ni symleiddio tocynnau, a chynnig prisiau syml ledled ardal, fel nad oes yn rhaid i bobl lywio rhwng tocynnau gan wahanol weithredwyr, ac na fydd yn rhaid iddyn nhw dalu crocbris am docynnau ar lwybrau y mae'r gweithredwr yn eu hystyried yn rhai ymylol. Fel gwnaethom ni fynegi yn ein Papur Gwyn, mae hyn yn golygu y gallwn ni ddarparu 'un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn'.

I gyflawni hyn yn ymarferol, rydym ni'n cynnig model o fasnachfreinio. Bydd angen perthynas waith agos ag awdurdodau lleol a rhanbarthau ledled Cymru ar gyfer llunio ein rhwydwaith bysiau a phennu cytundebau i ddarparu'r gwasanaethau hynny. Mae hyn yn caniatáu i ni greu meddwl sy'n tywys y system bysiau yng Nghymru, gan weithio er mwyn y cyhoedd i benderfynu pryd a ble mae gwasanaethau yn rhedeg, a faint y maen nhw'n ei gostio i'w ddefnyddio. Roedd pobl yn cytuno â'r model hwn yn ein hymgynghoriad ni. Roedd dwy ran o dair o bobl yn cytuno â'r angen i fasnachfreinio i wella gwasanaethau bws, a thros dri chwarter yn cytuno gyda'r model yr ydym ni'n bwriadu ei gyflwyno.

Mae llawer o waith i'w wneud eto ac rydym ni'n gweithio gydag awdurdodau lleol ynglŷn â'u sylwadau nhw yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad i sicrhau ein bod ni'n creu system sy'n gadael i'r sector cyhoeddus cyfan ddod at ei gilydd ac yn darparu'r gwasanaethau bysiau sydd eu hangen arnom ni. Rydym ni'n gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru a'r diwydiant bysiau er mwyn inni allu dod â nhw gyda ni i greu cyfleoedd deniadol o ran cytundebau i'n gweithredwyr bysiau ni i gyd, gan gynnwys y llu o weithredwyr llai eu maint yr ydym ni'n dibynnu arnyn nhw yng Nghymru. Rydym ni'n awyddus i ganiatáu i weithredwyr bysiau trefol mwy sydd dan berchnogaeth gyhoeddus fod yn y cymysgedd hefyd, cam a gafodd ei gefnogi gan dros 80 y cant o bobl a ymatebodd i'n hymgynghoriad. A dim ond ran o'r ffordd y bydd deddfwriaeth yn gallu mynd â ni, Dirprwy Lywydd. Fe fydd penderfyniadau anodd eto ynghylch buddsoddi cyllid yn y gwasanaethau, a gwella seilwaith a gwneud prisiau tocynnau yn fforddiadwy ar gyfer gwneud bysiau yn ddewis gwirioneddol yn hytrach na mynd mewn ceir. Ond fe fydd deddfwriaeth i newid ein dulliau ni o ddarparu gwasanaethau bws yn gam cyntaf hanfodol ar y daith honno. Mae'r ymateb i'n hymgynghoriad ni'n bendant wedi mynegi bod angen am y newid hwn, ac mae wedi rhoi cefnogaeth eglur i ystyried y rhwydwaith bysiau yn wasanaeth cyhoeddus unwaith eto yng Nghymru.

Mae cyfle gennym ni, yn y Senedd hon, i newid cyfeiriad i fynd i'r afael â thlodi trafnidiaeth, a meithrin system drafnidiaeth gyhoeddus sy'n gallu cyrraedd ein nodau hinsawdd ni. Ac fe fyddwn ni'n parhau i weithio gyda'n partneriaid ni i wireddu hynny, ac rwy'n edrych ymlaen at drafod deddfwriaeth a all ein rhoi ni ar y trywydd hwnnw yn y Senedd hon. Diolch.