Part of the debate – Senedd Cymru am 4:02 pm ar 6 Rhagfyr 2022.
Wel, diolch i Carolyn Thomas am barhau i hyrwyddo bysiau. Mae wedi bod yn fater polisi sydd wedi'i esgeuluso yn rhy hir, a ddim yn cael ei ystyried yn ffasiynol, ac rwy'n credu ei bod hi'n bryd i ni newid hynny, ac mae hi'n gwneud gwaith gwych yn arwain y grŵp trawsbleidiol ar drafnidiaeth gyhoeddus i'r perwyl hwnnw. Mae'r cwestiwn o sut bydd y toriadau yn effeithio yn un perthnasol a chyfredol iawn. Byddwn i'n dweud bod yr hyn rydym ni'n sôn amdano yn y Papur Gwyn a'r Bil yn ymwneud â sut rydym ni'n trefnu'r system, a'r system honno wedyn yn gallu cael ei hystwytho a'i chyflwyno ar raddfa fwy. Felly, yn amlwg, po fwyaf o arian rydym ni'n ei roi ynddo, y gorau yw'r gwasanaethau rydym ni'n gallu eu cynnig. Ond hyd yn oed os ydych chi dim ond yn rhoi'r hyn rydym ni'n ei roi i mewn nawr, byddem ni'n dal â system well, fwy cynlluniedig, fwy cydgysylltiedig, fwy cydlynol a thecach. Felly, rwy'n credu bod y ddadl dros y system yn y Papur Gwyn yn sefyll ar ei theilyngdod ei hun, mae'r cwestiwn am arian cyhoeddus i fysiau yn un perthynol. Ac, fel y dywedais i, mae'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf yn mynd i fod yn heriol iawn i ni allu cynnal gwasanaethau, heb sôn am eu hehangu. Ac fe fyddwn ni'n mynd trwy hynny pan fyddwn ni'n cyhoeddi'r gyllideb ac yn mynd trwy'r craffu. Rydw i a llawer o bobl eraill yn pryderu am hynny, ond fe wnawn ein gorau glas i gadw rhwydwaith, fel yr ydym wedi'i wneud dros y blynyddoedd diwethaf, trwy COVID, i ganiatáu iddo gael ei ehangu pan fydd gennym Lywodraeth fwy goleuedig yn San Steffan.
O ran y pwynt ar gaffael fflyd swmp, mae'n un diddorol iawn. Rwy'n eithaf pryderus am yr effaith ar fusnesau bach a chanolig. Gwyddom, mewn rhannau o gefn gwlad Cymru, fod y gweithredwr bysiau bach teuluol wedi bod yn allweddol i'r ecosystem trafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r model busnes hwnnw'n dod o dan straen sylweddol. Mae llawer o weithredwyr yn methu, mae awdurdodau lleol yn ei chael hi'n anodd caffael darparwyr ar gyfer gwasanaethau allweddol. Felly, rwy'n credu y bydd angen i ni edrych yn greadigol ar sut rydym ni'n llenwi'r bwlch hwnnw. Mae'r Papur Gwyn yn sôn am weithredwr dewis olaf, yn union fel sydd gennym ar y trenau ar hyn o bryd, a'r achos dros rywbeth cyfatebol ar y bysiau. A gallai caffael y bysiau eu hunain yn ganolog fod yn un ffordd y gallem ni ddileu risg i fusnesau bach teuluol rhag gallu cymryd rhan, a gallem wedyn brydlesu i weithredwr a allai redeg y gwasanaeth am ffi. Rwy'n credu mai dyna'r math o beth sydd angen i ni weithio drwyddo gyda llywodraeth leol a gyda'r sector i ddeall ymarferoldeb hynny. Ond, mae Carolyn Thomas yn nodi pwynt pwysig iawn.