5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Diwygio Bysiau

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:09 pm ar 6 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 4:09, 6 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Fel yr ydym wedi clywed, mae'n fater o gyfiawnder cymdeithasol i wneud teithio ar fws yn fwy fforddiadwy a bod mwy ar gael yma yng Nghymru, ac mae fforddiadwyedd cymharol teithio ar fws o'i gymharu a char wedi bod yn mynd i'r cyfeiriad anghywir. Mae gennym ni fentrau amrywiol o ran teithio ar fysiau am ddim, Gweinidog—rhai cynlluniau Llywodraeth Cymru, rhai cynlluniau awdurdodau lleol—a tybed a oes gennych chi unrhyw gynlluniau i ategu hynny gyda mwy o deithio ar fysiau am ddim yn gyffredinol, efallai, mewn ardaloedd daearyddol diffiniedig. Mae'n rhywbeth y mae gennym ddiddordeb mawr ynddo yng Nghasnewydd, gan wneud rhagor o waith ar hynny yn sgil argymhelliad pwyllgor Burns.