Part of the debate – Senedd Cymru am 4:41 pm ar 6 Rhagfyr 2022.
Byddai gwelliant 9, a gynigiwyd gan Rhys ab Owen, yn ychwanegu e-sigaréts tafladwy at yr Atodlen, sy'n golygu y byddent yn cael eu gwahardd. Mae gwelliannau 6, 8 a 10 yn ganlyniadol i'r gwelliant hwn. Wrth gwrs rydym yn cydnabod bod tystiolaeth anecdotaidd o broblem sbwriel gynyddol gydag e-sigaréts untro, ond mae hwn yn faes cymhleth, fel nododd Rhys ei hun, ac yn gofyn am gasglu llawer mwy o dystiolaeth cyn i ni ystyried ai gwaharddiad yw'r cam mwyaf priodol.
O safbwynt iechyd, yn wir, rydym yn hanesyddol wedi bod ag agwedd bwyllog tuag at gynhyrchion e-sigarét yng Nghymru, o ystyried bod y dystiolaeth am eu heffeithiau hir dymor yn datblygu ac o ystyried eu hapêl bosibl i blant a phobl ifanc. Dim ond i fod yn hollol glir, Llywydd, ni ddylai e-sigaréts fyth gael eu defnyddio gan blant, pobl ifanc, nac unrhyw un nad yw'n ysmygu. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod, i rai pobl, fod e-sigaréts a chynhyrchion nicotin eraill yn offer defnyddiol i'w helpu i roi'r gorau i ysmygu, gyda'r dystiolaeth bresennol yn awgrymu eu bod yn sylweddol llai niweidiol nag ysmygu tybaco. Yn arolwg cenedlaethol Cymru 2018-19, sef yr arolwg diweddaraf pan ofynnwyd i bobl pam yr oedden nhw'n defnyddio e-sigaréts, nododd 76 y cant o ddefnyddwyr e-sigaréts presennol mai eu rheswm dros ddefnyddio e-sigaréts oedd i'w helpu nhw i roi'r gorau i ysmygu cynhyrchion tybaco. Mae angen dybryd i ni ymchwilio a chydbwyso'r ffactorau hyn cyn dod i benderfyniad ar ba gamau i'w cymryd ynghylch taflu sbwriel e-sigaréts. Felly, am y rheswm hwn, nid wyf yn gallu cefnogi gwelliannau 6, 8, 9 na 10.
Gan droi at welliant 7, sy'n ceisio ychwanegu e-sigaréts tafladwy at y rhestr o gynhyrchion sy'n ymddangos yn adran 4, sy'n ymwneud â'r gofyniad i ystyried ac yna adrodd ar y posibilrwydd o wahardd e-sigaréts tafladwy, tra fy mod i'n cytuno mewn egwyddor ar edrych ar e-sigaréts ymhellach, ni allaf dderbyn y gwelliant hwn ar hyn o bryd, gan nad yw'r Aelod wedi diffinio 'tafladwy'. Byddai angen ystyriaeth bellach o ddefnydd presennol y cynhyrchion hyn a'r math o gynhyrchion sy'n cael eu marchnata fel 'tafladwy'. Mae angen i ni fod yn glir ynglŷn â pha gynhyrchion yr ydym ni'n edrych arnyn nhw mewn gwirionedd. Felly, ni allaf gefnogi gwelliant 7, er, wrth gwrs, ni fydd absenoldeb cyfeiriad penodol at e-sigaréts yn adran 4 yn ein hatal rhag ystyried a ddylid gwahardd rhai mathau o e-sigaréts plastig untro, na chwaith rhag adrodd i'r Senedd ar yr ystyriaeth honno, fel y byddwn yn ei wneud gyda chynhyrchion eraill y byddwn yn ystyried gweithredu yn eu cylch yn y dyfodol. Byddaf yn sicr yn gofyn i fy swyddogion polisi weithio gyda'u cydweithwyr ym maes iechyd i ddechrau'r gwaith sydd ei angen, gan ein bod yn ystyried y mater hwn o safbwynt iechyd ac o safbwynt amgylcheddol. Diolch.