Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 7 Rhagfyr 2022.
Diolch, Jane Dodds. Rydym yn blaenoriaethu’r cynllun peilot incwm sylfaenol ar gyfer gofalwyr, fel y gwyddoch. Bydd y gwerthusiad o’r cynllun peilot hwnnw’n archwilio’r manteision posibl i bobl sy’n gadael gofal a phoblogaeth Cymru yn gyffredinol. Ond mae swyddogion y Gweinidog newid hinsawdd yn arwain gwaith i sicrhau ein bod yn deall yr effeithiau, yr heriau a’r cyfleoedd sy’n gysylltiedig â’r newid i economi carbon isel.