Tlodi

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 7 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 1:33, 7 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Mae pum mlynedd wedi bod ers y penderfyniad i ddod â Cymunedau yn Gyntaf i ben. Hon oedd strategaeth wrthdlodi’r Llywodraeth, ac nid oes un wedi'i rhoi ar waith yn ei lle. Ers hynny, mae lefelau tlodi wedi cynyddu, a byddant yn gwaethygu'n sylweddol oherwydd yr argyfwng costau byw, sy’n prysur ddod yn argyfwng difrifol. Pam nad oes gan Gymru strategaeth wrthdlodi benodol, Weinidog, ac a ydych yn cytuno bod angen un arnom nawr yn fwy nag erioed?