Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 7 Rhagfyr 2022.
Weinidog, fel peiriannydd hyfforddedig, rwyf bob amser yn awyddus i ddefnyddio data i ddatblygu dull o ymdrin â pholisi sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ac mae treial incwm sylfaenol Llywodraeth Cymru yn rhoi’r cyfle hwnnw inni brofi effeithiau incwm sylfaenol yn y Deyrnas Unedig. A gaf fi ofyn i chi sut y bydd y data hwnnw ar gael i bobl fel Jane Dodds a minnau, sy'n awyddus i hyrwyddo incwm sylfaenol cyffredinol, ond hefyd, i'r anghredinwyr ar yr ochr draw, fel y gallant sylwi efallai ar y data a newid eu cân?