Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 7 Rhagfyr 2022.
Wel, diolch yn fawr iawn, Joel James. Nid oes gennym unrhyw ddylanwad ar sut a phwy y mae'r Loteri Genedlaethol yn eu hariannu. Rydym yn cyfarfod yn rheolaidd â'r cyfarwyddwr, ac yn wir, cynrychiolydd Cymru ar gyfer arian y Loteri Genedlaethol. Fy nghyd-Aelod, Dawn Bowden, y dirprwy Weinidog, sydd â’r cyfrifoldeb cyffredinol, o ran dealltwriaeth gyffredinol a chyswllt mewn perthynas â defnydd o’r arian.