Pobl sy'n Gadael Gofal

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 7 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 1:55, 7 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Jack Sargeant. Ar 3 Rhagfyr, cynhaliais i ac Aelodau eraill o’r Cabinet uwchgynhadledd gychwynnol gyda phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal i ddatblygu gweledigaeth ar gyfer y dyfodol gyda’n gilydd. Mae’r uwchgynhadledd yn rhan o’n gwaith, dan arweiniad y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, i fwrw ymlaen â’n hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i archwilio sut yr eir ati i ddiwygio gwasanaethau plant mewn modd radical.