Y Sector Wirfoddol

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 7 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 1:52, 7 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Sam. Rwyf wedi cytuno ar gyllid o £6.98 miliwn y flwyddyn ar gyfer Cefnogi Trydydd Sector Cymru am dair blynedd. Mae ychydig dros £1 miliwn o’r cyllid hwn yn mynd i’r chwe chyngor gwirfoddol sirol yng ngogledd Cymru i helpu mudiadau gwirfoddol lleol gyda chodi arian, llywodraethu da, diogelu a gwirfoddoli.