Cynllun Gweithredu LHDTC+

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 7 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 2:07, 7 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Fel Llywodraeth, rydym yn sefyll ochr yn ochr â'n cymunedau LHDTC+. Dyna pam mae hawliau LHDTC+ wedi'u gwreiddio yn ein rhaglen lywodraethu, a pham rydym yn datblygu ein cynllun gweithredu LHDTC+ beiddgar. Ar ôl adolygu mwy na 1,300 o ymatebion i'r ymgynghoriad, ein nod yw cyhoeddi'r cynllun gweithredu diwygiedig ym mis Chwefror 2023.