Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 7 Rhagfyr 2022.
Weinidog, un o'r camau gweithredu yn y cynllun yw archwilio ffyrdd y gellir cael gwared ar ddulliau adnabod personol diangen, megis enw, oedran, a dynodwyr rhywedd o'r ddogfennaeth, yn enwedig mewn arferion recriwtio. Gallai hyn hefyd fod o gymorth i leihau'r risg o wahaniaethu yn erbyn rhywun o gefndir lleiafrifol ethnig. I ba raddau rydych chi wedi llwyddo i gyflawni'r cam gweithredu hwn? A yw cyrff cyhoeddus, fel y GIG, bellach wedi datblygu'r amcan hwn, ac a allwch chi roi tystiolaeth o unrhyw welliant o gwbl?