1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 7 Rhagfyr 2022.
8. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Swyddfa'r Post a'r Post Brenhinol ynglŷn â sichrau parhad eu gwasanaethau yng Nghanol De Cymru? OQ58828
Dyw materion yn ymwneud â Swyddfa’r Post a’r Post Brenhinol ddim wedi’u datganoli, ond wrth gwrs mae gen i ddiddordeb mewn unrhyw fater sy’n effeithio ar Gymru a chymunedau Cymru. Mae fy swyddogion mewn cysylltiad rheolaidd efo’r ddau sefydliad. Fe wnes i gwrdd â Swyddfa’r Post ym mis Hydref a’r Post Brenhinol ym mis Gorffennaf.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Weinidog. Mae'n gwasanaeth post, wrth gwrs, drwy'r Swyddfa Post a'r Post Brenhinol, yn wasanaeth hanfodol i gymaint o bobl yn ein cymunedau. O ran fy rhanbarth, mae nifer o swyddfeydd post wedi cau neu leihau eu horiau agor, ac mae pryderon penodol o ran dyfodol swyddfa post Pontypridd—swyddfa brysur dros ben yng nghanol tref Pontypridd, sy'n cau ar 23 Rhagfyr heb unrhyw sicrwydd eto y bydd yn ailagor.
Yn bellach, fel y byddwch yn ymwybodol, mae anghydfod parhaus rhwng gweithwyr y Post Brenhinol, a hoffwn heddiw yrru neges o gefnogaeth i'r gweithwyr hynny sy'n ymladd o ran eu telerau gwaith ynghyd â dyfodol y gwasanaeth. Clywyd tystiolaeth yn y cyfryngau'r wythnos diwethaf ynglŷn â sut mae'r gwasanaeth yn cael ei redeg, gyda llythyrau ddim yn cael eu blaenoriaethu mwyach, a bod lleihad wedi bod yn y nifer o weithwyr, gan olygu bod rhai pobl yn colli post pwysig megis apwyntiadau meddygol oherwydd bod llythyrau ddim yn eu cyrraedd mewn pryd. Hoffwn ofyn, felly: pa drafodaethau penodol mae'ch swyddogion, neu chithau, Ddirprwy Weinidog, wedi'u cael gyda'r Swyddfa Post a'r Post Brenhinol, o ran yr elfennau yma o'u gwasanaethau, ac yn benodol o ran y Post Brenhinol, o ran yr anghydfod, er mwyn sicrhau bod galwadau'r gweithwyr yn cael eu gweithredu gan reolwyr a bod y gwasanaeth hanfodol hwn yn cael ei ddiogelu i'r dyfodol?
Rwy'n credu bod hwn yn fater y mae'r Aelod yn ei ddilyn yn eithaf agos, ac sydd wedi cael ei grybwyll mewn gohebiaeth o'r blaen. Ac rwy'n gwybod ei fod yn rhywbeth sy'n effeithio ar bob un o'n cymunedau, yn enwedig y cymunedau mwy gwledig yng Nghymru sy'n ddibynnol ar y rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol. Rwy'n credu mai'r peth cyntaf i'w ddweud ynghylch Swyddfa'r Post a'r Post Brenhinol yw eu bod yn amlwg yn gwmnïau gwahanol ac ar wahân. Ond rwy'n ymwybodol o'r mater y soniodd yr Aelod amdano ynglŷn â swyddfa bost Pontypridd, a'r ffaith eu bod yn chwilio am wasanaeth arall ar hyn o bryd, ond rwy'n gwybod ei bod yn her sy'n wynebu llawer o gymunedau ac mae'n rhywbeth y byddaf yn ei godi eto gyda Swyddfa'r Post, ac efallai y caf gyfarfod pellach, a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod.
Ac rwy'n siŵr y bydd gweithwyr y Post Brenhinol yn sicr yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth gan yr Aelodau yn y Siambr hon i'r anghydfod diwydiannol presennol. Oherwydd mae'n bygwth effeithio ar y rhai sy'n darparu'r gwasanaethau hynny a'r gweithwyr yng Nghymru, yn ogystal â'r gwasanaethau rydym yn eu cael yng Nghymru. Nid yn unig fe allai wanhau sefyllfa gweithwyr, gallai wanhau'r gwasanaeth ac o bosibl symud i ffwrdd o'r rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol y mae cymaint o gymunedau'n dibynnu arni. Felly, rwy'n credu bod Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu yn iawn i ddweud nad yw'r anghydfod hwn yn ymwneud â thâl ac amodau'n unig—mae'n ymwneud â sefydliad rydym wedi dibynnu arno ers blynyddoedd lawer. Felly, gallaf ddweud wrth yr Aelod y byddaf yn cyfarfod ag Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu eto yn fuan iawn a byddaf yn hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddo yn dilyn y cyfarfod hwnnw.
Ac yn olaf, cwestiwn 9, Hefin David.