Part of the debate – Senedd Cymru am 6:05 pm ar 7 Rhagfyr 2022.
Diolch, Lywydd. Rwy'n falch heddiw o allu cyflwyno ein cynnig ar ardrethi busnes ar gyfer llety hunanddarpar, yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar. Ac wrth agor y ddadl heddiw, hoffwn egluro yn gyntaf nad dadl ar ba mor gywir yw'r rheoliadau 182 diwrnod a gyhoeddwyd yn gynharach eleni ydyw, ac fel y gwyddoch, ar yr ochr hon i'r meinciau, roeddem yn erbyn cyflwyno'r rheoliadau hyn, ac ym mis Gorffennaf fe wnaethom gyflwyno cynnig i ddirymu'r Gorchymyn Ardrethi Annomestig (Diwygio Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022, a drechwyd wrth gwrs yn y Siambr hon.
Mae ein dadl heddiw yn ymwneud â dryswch ac annhegwch gweithredu'r Gorchymyn hwn, y teimlwn ni ar yr ochr hon i'r meinciau ei fod yn hynod o annheg ac anghyfiawn. Yr hyn y gofynnir amdano ar hyn o bryd yw bod pobl yn dilyn rheolau nad ydynt mewn grym eto. Ni allaf weld hyn yn digwydd mewn unrhyw sefyllfa arall y gallaf feddwl amdani. Felly, gadewch i mi esbonio: fel y gwyddom, o 1 Ebrill 2023, rhaid darparu tystiolaeth fod eiddo wedi bod ar gael i'w osod am o leiaf 252 diwrnod, a'i fod wedi'i osod am o leiaf 182 diwrnod, ac amlinellir hyn ym mhwynt (b) o welliant y Llywodraeth o'n blaenau heddiw. Fodd bynnag, bydd asesiad Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn seiliedig ar gofnodion ar gyfer y 12 mis cyn y dyddiad hwn, sy'n golygu y bydd busnesau hunanddarpar yn cael, ac wedi cael eu hasesu yn ôl y rheoliadau newydd sy'n dod i rym yn 2023, sy'n dyddio'n ôl i 2022. Felly, bydd yr asesiad yn seiliedig ar rywbeth nad yw'n ofyniad ar hyn o bryd. Yn fy marn i, ac ym marn y meinciau hyn, nid yw'n deg ac yn rhesymol i asesu busnes ar ddata o'r adeg pan nad oes angen iddynt fodloni'r disgwyliadau newydd hyn. Ac rwy'n credu y dylai Llywodraeth Cymru ystyried y pryderon difrifol y mae darparwyr llety hunanddarpar ledled Cymru yn eu mynegi ynghylch y cyfnod asesu ar gyfer pennu'r cymhwysedd hwn. Felly, dyna'r mater rydym yn ei drafod yma heddiw—y disgwyliad i fusnesau ddilyn rheolau nad ydynt ar waith ar hyn o bryd.
O ran y cyd-destun ar gyfer hyn, a pham mae'n bwysig cael hyn yn iawn, a pham fod gweithredu'r Gorchymyn hwn ar hyn o bryd mor anghyfiawn, mae'n rhannol oherwydd pwysigrwydd anhygoel y sector hwn i economi Cymru. Fel y gwyddoch, mae'n rhywbeth rwyf wedi'i grybwyll dro ar ôl tro yn y Siambr hon, ac mae'r adroddiad a gynhyrchwyd gan Ffederasiwn y Busnesau Bach ar dwristiaeth yr haf hwn yn dangos mai twristiaeth sydd i gyfrif am dros 12 y cant o gyflogaeth yng Nghymru—caiff un o bob saith o bobl yng Nghymru eu cyflogi gan y sector. Yn ogystal â hyn, mae'r adroddiad yn dangos mai twristiaeth sydd i gyfrif am dros 17 y cant o gynnyrch domestig gros Cymru. Mae'n gwbl eglur fod y sector hwn yn hanfodol i'n gwlad a'n cymunedau lleol yma yng Nghymru.
Ym mhwynt (a) o welliant y Llywodraeth, maent yn dweud eu bod wedi ymgynghori'n eang. Fodd bynnag, rwyf fi yn rhinwedd fy ngwaith fel cadeirydd grŵp trawsbleidiol y Senedd ar dwristiaeth, a'r sector llety hunanddarpar a ffigyrau blaenllaw yn y sector twristiaeth, sydd wedi nodi eu dryswch, eu dicter a'u rhwystredigaeth ynghylch gweithredu'r Gorchymyn hwn o'n blaenau, yn ei chael hi'n anodd derbyn hyn yn llawn—eto, disgwyliad y bydd yn rhaid i'r busnesau hyn gydymffurfio â rheolau nad ydynt yn weithredol eto.
Rhan olaf y cynnig heddiw yr hoffwn ganolbwyntio arno yw pwynt (c) o welliant y Llywodraeth, sy'n dweud:
'bod y newidiadau hyn yn rhan o becyn ehangach o fesurau sydd wedi'u cynllunio i gefnogi cymunedau lleol llewyrchus, lle y gall pobl fforddio byw a gweithio drwy gydol y flwyddyn.'
Ar yr olwg gyntaf, rwy'n siŵr y gall Aelodau o bob rhan o'r Siambr gytuno â hyn. Ond fel y gwyddom, y prif reswm dros gyflwyno'r rheoliadau hyn oedd er mwyn gwahaniaethu rhwng ail gartrefi a llety gwyliau hunanddarpar cyfreithlon. Fodd bynnag, gyda'r meini prawf yn cael eu hasesu eleni, cyn i'r rheolau hynny fod ar waith, cyn i'r rheoliadau hynny ddod i rym mewn gwirionedd, byddwn yn gweld set o ganlyniadau wedi'u hystumio, gan nad yw llety hunanddarpar wedi cael amser priodol i gynllunio, addasu eu cynlluniau busnes a sicrhau bod eu busnesau'n cael eu paratoi ar gyfer y newid hwn. Felly, ni fydd yn cyflawni'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ceisio ei gyflawni. Yn ogystal â hyn, fel y gŵyr pawb ohonom yn y Siambr, mae'r ffordd y mae'r busnesau hyn yn cael eu sefydlu, a'r ffordd y mae pobl yn trefnu eu gwyliau yn digwydd ymhell o flaen llaw yn aml—chwech, 12 a mwy o fisoedd ymlaen llaw. Felly, drwy asesu data nawr, cyn i'r rheoliadau ddod yn weithredol, nid yw llety hunanddarpar wedi cael amser i gynllunio, a byddwn yn gweld gwybodaeth wedi'i chamgyfrifo. Eto, ni fydd Llywodraeth Cymru'n gallu cyflawni eu nodau trosfwaol.
Felly, i gloi, Lywydd, mae'n hynod o annheg ac afresymol asesu a barnu llety hunanddarpar yn ôl yr hen reolau pan ddaw'r rheolau newydd i rym fis Ebrill nesaf. Gallai hyn arwain at effeithiau niweidiol ar y sector twristiaeth ac mae'n achosi dryswch yn y sector, sector sydd mor bwysig i'n heconomi ac i'n cymunedau lleol. Felly, rwy'n edrych ymlaen at gyfraniadau o bob rhan o'r Siambr yn y ddadl hon, ac rwy'n edrych ymlaen yn arbennig at gyfraniadau gan bobl sy'n ceisio egluro pam eu bod yn credu bod yr anghyfiawnder hwn yn deg. Diolch yn fawr iawn.