Part of the debate – Senedd Cymru am 6:16 pm ar 7 Rhagfyr 2022.
Diolch, Lywydd. Fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, rydym wedi trafod y mater hwn o'r blaen. Ar 27 Ebrill, ymatebodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i ddadl ar drethi a thwristiaeth gan wneud yr holl bwyntiau tebyg hyn, ac ar 6 Gorffennaf, ymatebodd i gynnig i ddirymu'r ddeddfwriaeth dan sylw. Mae'n amlwg fod cefnogaeth fwyafrifol yn y Senedd i'n newid i'r meini prawf a ddefnyddir i ddosbarthu llety hunanddarpar at ddibenion treth leol. Mae'n amlwg hefyd fod angen y newidiadau hyn i helpu i fynd i'r afael â'r problemau a ddaw yn sgil niferoedd yr ail gartrefi a llety gwyliau mewn rhai cymunedau. Mae'r newidiadau hefyd yn mynd i'r afael â sefyllfa lle gallai gosod ail eiddo am ddim ond 10 wythnos y flwyddyn olygu nad yw'r perchennog yn talu unrhyw drethi lleol.
Ar 2 Mawrth, fwy na 12 mis cyn i'r newidiadau ddod i rym yn ymarferol, fe wnaethom gyhoeddi canlyniad ein hymgynghoriad ar drethi lleol ar gyfer ail gartrefi a llety hunanddarpar. Ers hynny, rydym wedi nodi penderfyniad Llywodraeth Cymru ac amseriad newidiadau. Daeth y ddeddfwriaeth i rym ar 14 Mehefin. Daw'r newidiadau i rym o ddechrau mis Ebrill y flwyddyn nesaf, pan fydd y meini prawf newydd yn cael eu defnyddio wrth asesu eiddo hunanddarpar ar gyfer y rhestr ardrethi annomestig a gyflawnir gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Ar hynny o leiaf, mae Janet Finch-Saunders yn iawn. Ni fydd cydymffurfiaeth â'r meini prawf newydd yn cael eu hasesu tan ar ôl mis Ebrill 2023. Mae'r asesiad yn seiliedig ar gofnodion ar gyfer y 12 mis cyn y dyddiad dan sylw. Mae hynny'n golygu y bydd asesiad ar gyfer dyddiad penodol yn 2023 yn ystyried tystiolaeth o'r dyddiad cyfatebol yn 2022 ymlaen. Nid yw'r broses hon yn un newydd. Wrth gymhwyso'r meini prawf newydd, ni fydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn tynnu eiddo hunanddarpar o'r rhestr ardrethi annomestig cyn dechrau mis Ebrill y flwyddyn nesaf.
Wrth baratoi'r ddeddfwriaeth, fe wnaethom gymryd sylw o'r holl ystyriaethau amseru perthnasol, gan gynnwys yr angen dybryd i fynd i'r afael â'r problemau sy'n cael eu creu gan y nifer fawr o ail gartrefi a llety gwyliau mewn rhai cymunedau. Daethom i'r casgliad fod y cyhoeddiad a'r broses o gyhoeddi cynlluniau a deddfwriaeth yn rhoi digon o rybudd i awdurdodau lleol, perchnogion eiddo a rhanddeiliaid eraill baratoi ar gyfer y newidiadau. Cafodd y ddeddfwriaeth ei chraffu gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wrth gwrs, ac ni nododd ei adroddiad unrhyw bwyntiau craffu technegol.
Rydym wedi egluro'r rhesymau y tu ôl i'n penderfyniad i gynyddu'r meini prawf ar gyfer gosod. Bydd yr eiddo dan sylw yn cael ei ystyried yn eiddo annomestig os caiff ei feddiannu at ddibenion busnes am y rhan fwyaf o'r flwyddyn. Os caiff ei osod yn llai aml, bydd y dreth gyngor yn ddyledus arno. Mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod perchnogion eiddo'n cyfrannu'n deg i'r cymunedau lle mae ganddynt gartrefi neu lle maent yn rhedeg busnesau.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod cryfder y teimladau ymhlith gweithredwyr ac wedi gwrando ar sylwadau gan fusnesau unigol a chynrychiolwyr y diwydiant. Rydym yn cydnabod bod rhai mathau o eiddo hunanddarpar wedi'u cyfyngu gan amodau cynllunio sy'n atal meddiannaeth barhaol fel prif breswylfa rhywun. Mae eithriad rhag premiwm treth gyngor eisoes yn cael ei ddarparu ar gyfer un math o amod cynllunio, ac ar hyn o bryd rydym yn ymgynghori ar ddeddfwriaeth a fydd yn ymestyn yr eithriad hwnnw i gynnwys amodau cynllunio eraill. Ein bwriad yw bod unrhyw newidiadau yn dod i rym o fis Ebrill 2023, ochr yn ochr â'r trothwyon uwch.
Ar hyn o bryd rydym yn ymgynghori ar ganllawiau diwygiedig i awdurdodau lleol ar opsiynau ychwanegol sydd ar gael os nad yw eiddo hunanddarpar a gyfyngir gan amodau cynllunio yn cyrraedd y trothwyon. Mae'r opsiynau hyn yn cynnwys disgresiwn i leihau neu ddileu'r gyfradd safonol o dreth gyngor sy'n ddyledus ar gyfer eiddo penodol lle bydd yr awdurdod lleol yn ystyried bod hynny'n briodol. Fel rhan o'r cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru, rydym yn rhoi camau ar waith ar unwaith i fynd i'r afael ag effaith ail gartrefi a thai anfforddiadwy mewn cymunedau ledled Cymru, gan ddefnyddio'r systemau cynllunio, eiddo a threthiant.
Rydym yn cydnabod—[Torri ar draws.] Rwyf ar fin gorffen. Rydym yn cydnabod bod y rhain yn faterion cymhleth sy'n galw am ymateb amlochrog ac integredig. Ni fydd newidiadau i drethi'n unig yn darparu'r ateb; dyna pam ein bod yn gweithredu pecyn o ymyriadau. Rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi gwelliant y Llywodraeth heddiw.