Part of the debate – Senedd Cymru am 6:30 pm ar 7 Rhagfyr 2022.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi wedi rhoi ychydig o amser i Carolyn Thomas, Sam Rowlands a Mike Hedges i gyfrannu ar y diwedd hefyd. Rŵan, mae yna resymau lu yn cael eu cyflwyno o blaid ynni niwclear, ac ar yr wyneb maen nhw’n medru argyhoeddi, ond edrychwch ychydig yn ddyfnach ac mi welwch chi mai arwynebol iawn ydy’r dadleuon yma. Dywed rhai fod angen ynni niwclear er mwyn darparu ar gyfer y llwyth ynni sylfaenol sydd ei angen—y baseload. Dydy hynny ddim yn wir. Mae baseload yn ei hun yn ddadleuol, gan nad yw'n galluogi'r hyblygrwydd angenrheidiol sydd ei angen yn yr oes fodern. Dywed cynllunwyr ynni fod yn rhaid cael hyblygrwydd o flaen baseload. Mae'n bosibl sicrhau hyn efo’r cymysgedd cywir o ynni—boed yn solar, gwynt, hydro, llanw a thrai, neu hydrogen glas.
Ond i’r rhai hynny sydd yn gaeth i’r gred fod angen baseload, yna mae gennym ni'r adnodd mwyaf effeithiol un yma yng Nghymru i'r perwyl hwnnw, sef llanw a thrai, gyda rhannau o arfordir Cymru efo rhai o’r amrediadau llanw mwyaf yn y byd. Os ydy rhywun yn chwilio am baseload, mae'n bosibl cael hyn drwy fuddsoddi yn yr adnoddau naturiol sydd yma, wedi cyplysu â thechnoleg storio.
Y rheswm diweddaraf sydd wedi cael ei roi gan y Llywodraeth yma dros gael datblygu niwclear ydy ar gyfer niwclear meddygol. Mae hyn yn arbennig o ddeniadol ar yr wyneb—pwy all ddadlau yn erbyn meddyginiaeth sydd yn helpu efo deiagnosis canser, neu Alzheimer's, neu lu o glefydau eraill? Ond, yn y cyd-destun yma eto, arwynebol yw'r dadleuon, ac nid yw’n cyfiawnhau adeiladu atomfa, a dyma pam. Rai blynyddoedd yn ôl, roedd yna brinder difrifol o’r brif isotop sydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer meddyginiaeth niwclear, sef technetium-99. Wrth i’r atomfeydd yn yr Iseldiroedd a Chanada heneiddio, daeth yr isotopau yma yn fwyfwy prin. Dyma sydd wedi cyflyru'r syniad o ddatblygu canolfan niwclear feddygol yma.
Ond er mwyn cynhyrchu isotopau yn ddiogel, mae’n rhaid cael atomfa ymchwil—research reactor. Mae cynhyrchu isotopau o atomfa gonfensiynol yn hynod beryglus, ac atomfa ynni ydy’r flaenoriaeth yma. Rhwng y dadgomisiynu a chynlluniau adweithyddion modiwlar bach, does dim lle ar safle Trawsfynydd, er enghraifft, am atomfa ymchwil hefyd. Ta waeth am hynny, mae prinder technetium yn cael ei ddatrys. Mae’r Almaen yn adeiladu cyfleuster arbelydru er mwyn cynhyrchu technetium ym mhrifysgol München, ac mae atomfa ymchwil y Jules Horowitz ar y gweill yn Ffrainc. Yn wir, mae’r Jules Horowitz yn bartneriaeth ryngwladol, ac mae’r Deyrnas Gyfunol yn bartner allweddol. Bydd y ddwy atomfa ymchwil yma yn cynhyrchu mwy na digon o isotopau ar gyfer anghenion Ewrop a Phrydain.
Ond hyd yn oed yn well na hynny, mae gwaith rhagorol Dr François Bénard o brifysgol British Columbia wedi arwain at y gallu i gynhyrchu technetium-99 trwy ddefnyddio cyclotrons—offer maint llai na char bach, heb yr angen am unrhyw fath o atomfa, ac mae modd cael nifer o’r rhain ar hyd y wlad. Mi fuaswn i’n annog y Llywodraeth i gydweithio efo prifysgol British Columbia er mwyn manteisio ar y dechnoleg yma.
Wrth gwrs, mae yna wastraff ymbelydrol ynghlwm â meddyginiaeth niwclear hefyd, ond hanner oes technetium ydy chwech awr. Mae'n bosibl cael gwared ohono yn ddiogel o fewn rhai wythnosau. Mae hyn yn dra gwahanol i hanner oes thoriwm, sy'n 80,000 o flynyddoedd, neu plwtoniwm, sy'n 28,000 o flynyddoedd. A dyna’r gwir—mae niwclear yn beryglus. O’r eiliad mae’n cael ei dynnu o’r ddaear i’w ddefnyddio fel tanwydd a’i wastraffu, mae'n angeuol ac mae'n bodoli am gannoedd o filoedd o flynyddoedd. Mae o'n ddiwydiant budr yn ecolegol, amgylcheddol, ac yn beryglus i bob creadur byw.
Dwi wedi siarad efo pobloedd tiroedd yr Anishinaabe yn Ontario, a phobl Mirarr Tiroedd Gogledd Awstralia, sydd wedi sôn wrthyf am y niwed difrifol sydd yn parhau i effeithio ar eu pobl a’u tir o ganlyniad i fwyngloddio iwraniwm yn eu tiriogaethau. Mae eu cymunedau yn dioddef o lefelau uchel o ganser a chyflyrau iechyd eraill, ac o dlodi enbyd, oherwydd y gwir ydy mai diwydiant trefedigaethol ydy’r diwydiant niwclear. Mae’r diwydiant yn rheibio tiroedd o fwynau peryglus yn erbyn ewyllys y cymunedau hynny, ac nid fi sy’n dweud hyn, ond yr Ojibwe, y Shoshone, y Adnyamathanha, y Kazakhs, ac eraill, sy'n dweud hyn. A beth am y gwastraff? Mae yna lefelau peryglus o uchel o caesiwm 134 ac 137 yn parhau i'w darganfod yn llyn Trawsfynydd, yn ôl adroddiadau diweddaraf Asiantaeth yr Amgylchedd, hynny ydy—20 mlynedd ar ôl i’r atomfa orffen cynhyrchu trydan yno. Ac er gwaethaf y sôn am ddatrysiadau i’r gwastraff, does neb wedi canfod unrhyw ffordd o drin y gwastraff yn ddiogel.