12. Dadl Fer: Breuddwydion atomig: Pŵer niwclear a ffydd ddall mewn technoleg sy'n heneiddio

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:35 pm ar 7 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 6:35, 7 Rhagfyr 2022

Mae rhai yn sôn am ddilyn y Ffindir a chladdu’r gwastraff filltiroedd o dan y ddaear, gan ei orchuddio efo clai. Ond nid datrysiad hirdymor mo hyn. Fe drïwyd claddu tailings gweithfeydd wraniwm cwmni Eldorado yn Ontario efo math o glai 40 mlynedd yn ôl, ond methu gwnaethon nhw. Ac mae yna dros 100 megatunnell o wastraff ymbelydrol wedi ei wasgaru dros fil hectar o dir yno o hyd. Fe ddefnyddiodd yr Unol Daleithiau y dechnoleg sment mwyaf cyfoes ar Ynys Runit, yn atol yn Enewetak, ar ddiwedd yr 1970au, er mwyn claddu gwastraff niwclear o arbrofion erchyll Ynysoedd y Marshall. Ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, ac mae’r sment yna yn cracio yn barod, efo deunydd ymbelydrol yn llifo i mewn i’r Mor Tawel. Does dim technoleg yn bodoli i fynd i’r afael â'r gwastraff sydd yn ymbelydrol am gannoedd o filoedd o flynyddoedd. Wrth gwrs, does dim rhaid imi sôn am Chernobyl, Fukushima, Three Mile Island neu Windscale, ond, nôl yn 1993, roedden ni o fewn dim i ychwanegu un enw arall at y rhestr o ddamweiniau niwclear trychinebus: Wylfa. Dyma oedd pennawd The Times ar fis medi 1995: