Ymgyrch Gwirionedd a Chyfiawnder Orgreave

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru ar 7 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour

2. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei roi i Lywodraeth Cymru ar sut y gall gefnogi ymgyrch gwirionedd a chyfiawnder Orgreave? OQ58831

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:25, 7 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch am y cwestiwn. Ysgrifennais at yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Gyfiawnder, yr Arglwydd Bellamy, ym mis Awst eleni, i alw ar gyrff cyhoeddus i ddatgelu gwybodaeth yn llawn yn ystod ymchwiliadau cyhoeddus neu achosion troseddol. Credaf y byddai cyfraith Hillsborough o fudd i'r alwad am ymchwiliad cyhoeddus i ddigwyddiadau yn Orgreave.

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw a'i ymrwymiad i gyfraith Hillsborough, rhywbeth rwyf wedi tynnu sylw ato mewn cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol, ynghyd â meysydd eraill o anghyfiawnder? Oherwydd mae'n llawer rhy anodd i bobl ddosbarth gweithiol yn y Deyrnas Unedig ac yng Nghymru gael mynediad at gyfiawnder. Fe wnaeth glowyr Orgreave, gan gynnwys llawer o Gymru, ddioddef anghyfiawnder dybryd. Ar y diwrnod, fe wnaeth llawer ohonynt ddioddef ymosodiadau anghyfreithlon creulon a pharhaus, ac mae'r hyn a ddigwyddodd wedyn yn staen go iawn ar system gyfreithiol Prydain. Gwnsler Cyffredinol, mae'r cyn-lowyr hyn yn haeddu cyfiawnder, a dylai pawb ohonom sy'n poeni am gyfiawnder barhau i godi'r mater hwn. A gaf fi ofyn am sicrwydd y byddwch chi, fel Cwnsler Cyffredinol, a Gweinidogion Llywodraeth Cymru, yn manteisio ar bob cyfle a gewch i godi hyn gyda swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU ac i fanteisio ar bob cyfle i godi llais a chadw fflam cyfiawnder yn fyw dros Orgreave?

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:26, 7 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr i chi am hynny ac am godi hynny. Nid wyf yn gwybod a ydych yn ymwybodol fy mod yn un o'r cyfreithwyr yn achos Orgreave a'r achosion terfysg, lle gwnaethom sicrhau dedfryd 'ddieuog' mewn perthynas â phob un o'r 90 achos roeddwn yn rhan ohonynt, ac yna fe wnaethom roi camau sifil ar waith yn erbyn yr heddlu am erlyniad maleisus ac arestio ar gam. Roedd yr holl achosion sifil hynny'n gwbl lwyddiannus. Yr hyn a oedd yn bwysig amdanynt a'r hyn sy'n bwysig am y mater hwn yw ei fod yn ymwneud ag arfer grym gan y wladwriaeth. Ac rwy'n credu bod tystiolaeth, a bydd dogfennaeth sydd eto i'w datgelu a fydd yn dangos bod y penderfyniadau a wnaed yn Orgreave—ac wrth gwrs mae'n ymwneud â materion eraill rydym yn ymwybodol ohonynt mewn perthynas â Hillsborough, ond y materion hynny, y penderfyniadau hynny—wedi cael eu gwneud ar y lefel uchaf un mewn gwirionedd, ar lefel brif weinidogol. Dyna yw fy nghred yn hynny o beth, ac rwy'n credu mai dyna yw'r rheswm pam na chynhelir ymchwiliad gan y Llywodraeth hon. Rwy'n falch iawn fod y Llywodraeth Lafur nesaf wedi rhoi ymrwymiad y bydd yn cynnal ymchwiliad i Orgreave, y bydd y dogfennau hynny'n cael eu datgelu, nid oherwydd ei fod yn ailgodi'r gorffennol, rhywbeth a ddigwyddodd amser maith yn ôl, ond bob tro y bydd gwladwriaeth yn camddefnyddio ei phŵer, mae'n bwysig fod yr achosion hynny'n cael eu gwneud yn gyhoeddus a'u bod yn cael eu trin yn y ffordd briodol.