Datganoli Cyfiawnder

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 7 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:18, 7 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Rwyf fi a fy nghyd-Weinidogion wedi gwneud safbwynt Llywodraeth Cymru am ddatganoli cyfiawnder yn glir iawn i'r Arglwydd Ganghellor hwn, ei ragflaenwyr a nifer o Weinidogion eraill y DU, ac yn fwyaf diweddar yr Arglwydd Bellamy, yr Is-ysgrifennydd dros gyfiawnder, ddydd Llun. Mae'n parhau'n siomedig iawn nad yw Llywodraeth y DU yn fodlon ymgysylltu o ddifrif â'r cwestiwn hwn.