Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 7 Rhagfyr 2022.
Diolch am hynny. Ar yr amgylchiadau penodol rydych chi'n eu codi, rwy'n credu bod y rheini'n rhai y gellid, ac mae'n debyg y dylid, eu cyfeirio at y Gweinidog, a fyddai'n siŵr o ymateb. Wrth gwrs mae yna lwybr arall, sef cyfeirio at yr ombwdsmon, ynghylch y ffordd y mae'r awdurdod lleol y cyfeiriwch chi ato wedi gweithredu. Rwy'n credu y byddai'n amhriodol i mi wneud unrhyw sylw penodol pellach na hynny ar rywbeth nad oes gennyf wybodaeth uniongyrchol yn ei gylch mewn gwirionedd.