Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 7 Rhagfyr 2022.
Wel, yn amlwg, rydym am weld cymaint ag y bo modd o gydweithio rhwng Aelodau'r Senedd ac unrhyw gyrff cyhoeddus, a chyrff preifat hefyd yn wir, lle maent yn ystyried materion y Senedd a dyletswyddau'r Senedd a dyletswyddau etholaethol. Rwy'n credu mai'r unig ffordd y gallaf eich cyfeirio, ynghylch y mater a godwyd gennych ac nad oes gennyf wybodaeth benodol amdano, yw bod yr hawliau wedi'u nodi yn y Ddeddf Diogelu Data. Pan fo unigolyn yn anfodlon â'r ymateb a gawsant i gais Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000,ceir proses lle gellir ei gyfeirio at y comisiynydd diogelu data, a fydd wedyn yn ystyried y sefyllfa gyfreithiol ar hynny yn y bôn ac a yw hynny'n rhywbeth y dylid ei ddatgelu neu na ddylid ei ddatgelu. Ac rwy'n credu mai dyna'r camau priodol y dylid eu cymryd yn hynny o beth.