Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 7 Rhagfyr 2022.
Gwnsler Cyffredinol, diolch am eich diweddariad ar hyn. Yn ddiweddar, cyfarfûm â'r Athro Kevin Haines a'r Athro Jonathan Wynne Evans, dau arbenigwr arloesol ym maes cyfiawnder ieuenctid, a siaradodd gyda mi ynglŷn â sut mae ein dull ni yng Nghymru yn ystyried eu bod yn blant yn gyntaf ac yn droseddwyr yn ail, ac fe wnaethant alw hyn yn ôl yn 2013 yn 'ddraigeiddio' cyfiawnder ieuenctid. Ac mae a wnelo hyn i gyd â gwneud yn siŵr fod y plentyn yn dod gyntaf a'r drosedd yn cael sylw wedyn. Mae tystiolaeth yn dangos bod hybu lles plant a phobl ifanc yn lleihau'r risg o droseddu ac aildroseddu, ac mae gwneud hynny'n diogelu'r cyhoedd hefyd. Felly, mae'n hynod amserol gweld mai datganoli cyfiawnder oedd un o argymhellion adroddiad diweddar Gordon Brown. Rwy'n ymwybodol fod hwn yn fater y mae'r Cwnsler Cyffredinol hefyd yn cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth y DU yn ei gylch, ac a gawn ni ddiweddariad ar y trafodaethau hynny a'u harwyddocâd i ddatganoli cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf i Gymru, os gwelwch yn dda?