Dyfarniad y Goruchaf Lys ar Refferendwm Annibyniaeth i'r Alban

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 7 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:43, 7 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch am y cwestiwn. Roedd y dyfarniad yn ymwneud yn benodol â'r sefyllfa yn yr Alban. Nid wyf o'r farn y bydd iddo oblygiadau i'r modd y dehonglir y setliad Cymreig. Roedd y Goruchaf Lys yn glir iawn nad oedd yn gwyro oddi wrth ei ddull blaenorol o ystyried materion o'r fath.