Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 7 Rhagfyr 2022.
Wel, rwy'n credu ein bod yn mynd i'r afael â materion sy'n effeithio ar bobl Cymru. Ac rydych chi'n hollol gywir yn eich dehongliad o'r hyn y mae dyfarniad y Goruchaf Lys yn ei olygu mewn perthynas â chynnal refferendwm o dan y ddeddfwriaeth refferenda. Er hynny, lle rwy'n credu eich bod chi'n anghywir yw wrth ddweud bod hynny felly'n golygu bod popeth yn iawn ac nad oes problemau cyfansoddiadol mawr a materion diwygio cyfansoddiadol y mae angen mynd i'r afael â hwy. Pwrpas edrych ar ddiwygio cyfansoddiadol yw, yn gyntaf, pan fo'n glir iawn ac yn cael ei gydnabod ar draws pleidiau, gan bobl flaenllaw iawn ym mhob plaid wleidyddol a chan nifer o sylwebwyr eraill ac aelodau o'r cyhoedd hefyd, nad yw'r hyn sydd gennym ar hyn o bryd yn gweithio, nad yw'n ddigonol, ei fod yn hen ffasiwn ac angen ei ddiwygio. Y rheswm pam mae'r materion hyn yn bwysig a pham mae angen inni roi sylw iddynt yw oherwydd mai ein cyfansoddiad a'n pwerau, yn y pen draw, yw'r ffordd y mae Llywodraeth yn gweithredu sy'n ymwneud ag ystyried y rheini, ynglŷn â sut y gallwn wneud pethau'n well, a sut y gallwn newid bywydau pobl er gwell. Mae hynny'n cael ei lywodraethu—[Torri ar draws.]
Mae'n ddrwg gennyf eich clywed yn ymateb yn y ffordd honno i'r hyn rwyf newydd ei ddweud, oherwydd dyna pam ein bod yn cael y trafodaethau hyn—dyna pam eu bod yn bwysig. Os oeddech chi'n credu nad yw trafod materion yn ymwneud â chyfansoddiad yn bwysig, ni fyddai gennym Fil Protocol Gogledd Iwerddon, ni fyddai gennym Fil cyfraith yr UE a ddargedwir, ni fyddai gennym y ddeddfwriaeth Bil Hawliau sy'n cael ei chynnig ychwaith, ac ni fyddem yn siarad yn gyson am y materion sydd wedi dod i'r amlwg dros y chwe blynedd diwethaf mewn perthynas â Brexit. Mae'r rheini i gyd yn faterion cyfansoddiadol ac maent yn effeithio ar fywydau pobl. Yr hyn a wnawn ni yw edrych ar y ffordd y mae ein perthynas â gweddill y DU yn gweithio, ond hefyd sut rydym yn arfer ein pwerau, sut rydym yn cael y pwerau sydd eu hangen arnom er mwyn cyflawni'r mandadau a gawn gan bobl Cymru, sut rydym yn gwella ein llywodraethiant, a sut rydym yn gwella'r rhan y mae pobl Cymru yn ei chwarae yn ein gwleidyddiaeth.