Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 7 Rhagfyr 2022.
Diolch am eich cwestiwn. Mae Comisiwn y Senedd yn ymdrechu i fod yn esiampl dda yn y modd y mae'n cyflawni ei bolisïau a'i mesurau urddas a pharch. Mae’n bleser gennyf gadarnhau, yn sgil y gwaith rhagorol gan swyddogion undebau llafur, fod y Comisiwn wedi cytuno i ddarparu nwyddau mislif am ddim ar ystad y Senedd i unrhyw un sydd eu hangen, o 2 Rhagfyr ymlaen, i hyrwyddo urddas mislif ledled Cymru a bod yn esiampl i sefydliadau eraill. Mae’r nwyddau hynny ar gael yn yr holl doiledau ar ystad y Senedd, gan gynnwys arwyddion i hyrwyddo’r gwasanaeth hwnnw.