Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:13 pm ar 7 Rhagfyr 2022.
Unwaith eto, diolch, Jack, am eich diddordeb ym mhopeth sy'n ymwneud â chydraddoldeb. Fe ofynnoch chi ddau gwestiwn. A yw'n rhywbeth parhaol? Credaf ei fod yn barhaol. Ar gynnyrch cynaliadwy, fe welwch fod cymysgedd o nwyddau eisoes ar gael yn ein cyfleusterau. Y nod yw profi’r rheini, i weld y defnydd ac anelu tuag at gynaliadwyedd o 100 y cant gyda'n cynnyrch, sydd, wrth gwrs, yn unol â’n polisi ehangach i anelu at gynaliadwyedd amgylcheddol ym mhopeth a wnawn.