Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 7 Rhagfyr 2022.
Rwy'n falch o ddweud bod cynnydd rhagorol wedi'i wneud ar weithredu cynllun aberthu cyflog er mwyn cael cerbydau trydan i'r Aelodau, i staff yr Aelodau ac i staff y Comisiwn. Mae’r bwrdd gweithredol wedi cymeradwyo’r cynllun mewn egwyddor, yn dilyn gwaith cefndir manwl, ac mae trefniadau terfynol bellach ar waith i sefydlu’r systemau a’r prosesau angenrheidiol yn y Senedd a chyda gweithredwr y cynllun. Rwy'n falch o ddweud ein bod yn rhagweld y bydd y rhain yn cael eu cwblhau cyn bo hir, yn barod ar gyfer lansio'r cynllun fis nesaf. Bydd gweithredu’r cynllun yn cefnogi strategaeth carbon niwtral 2030 y Comisiwn wrth gwrs, a thargedau teithio cynaliadwy.