Part of the debate – Senedd Cymru am 3:58 pm ar 7 Rhagfyr 2022.
Ar Ddydd Nadolig eleni, wrth inni wledda ar dwrci a mins-peis, bydd un garreg filltir nodedig yn digwydd yng Nghaerfyrddin wrth i Radio Glangwili ddathlu hanner can mlynedd o ddarlledu. Sbardun y gwasanaeth oedd cyfarfod o aelodau'r Urdd yn dod at ei gilydd ac, o fewn dim, o dan arweiniad Sulwyn Thomas a Gerwyn Griffiths ac eraill, aethpwyd ati i ddarlledu'r rhaglen gyntaf ar Ddydd Nadolig 1972. Dwy awr oedd ei hyd, gan gyfuno cyfarchion i gleifion ar y wardiau a chyfraniadau arbennig gan hyfforddwr tîm rygbi'r Llewod, Carwyn James, a'r gantores, Rosalind Lloyd.
Dros y degawdau, aeth yr orsaf o nerth i nerth. Datblygodd gyda'r newid technolegol, gan dyfu o stiwdio fach yn yr ysbyty i stiwdio bwrpasol. Mae'r orsaf erbyn hyn yn darlledu 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, gan gynnwys amrywiol arlwy yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mae'r orsaf hefyd wedi torri record byd ar gyfer darlledu am 24 awr yn ddi-dor, y cyntaf i wneud hyn yn yr iaith Gymraeg. Cleifion a staff yr ysbyty sydd wedi bod yn cynnal yr orsaf, gyda'r gwasanaeth yn llwyddo i gynnig cysur ac adloniant iddyn nhw ar hyd y blynyddoedd. Diolch o galon i'r gwirfoddolwyr yno sydd wedi gweithio mor ddiwyd i sicrhau llwyddiant yr orsaf. Pob dymuniad da ar gyfer yr 50 mlynedd nesaf. Diolch yn fawr.