Part of the debate – Senedd Cymru am 4:01 pm ar 7 Rhagfyr 2022.
Diolch. Ym mis Chwefror 2021, pleidleisiodd y Senedd o blaid fy nghynnig ar gyfer Bil a fyddai'n gwneud darpariaeth i annog defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, BSL, yng Nghymru, a gwella mynediad at addysg a gwasanaethau mewn BSL. Fel y dywedais bryd hynny, ym mis Hydref 2018 cafodd galwadau eu gwneud yng nghynhadledd Clust i Wrando gogledd Cymru am ddeddfwriaeth Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru, gan edrych ar Ddeddf Iaith Arwyddion Prydain (Yr Alban) 2015 a'u cynllun BSL cenedlaethol, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2017, a sefydlu grŵp cynghori cenedlaethol, i gynnwys hyd at 10 o bobl fyddar sy'n defnyddio BSL fel eu dewis iaith neu iaith gyntaf.
Er bod Deddf Cymru 2017 yn cadw cyfle cyfartal yn ôl i Lywodraeth y DU, mae cyfreithwyr y Senedd yn nodi y byddai Bil BSL Cymru yn cydymffurfio pe bai'n cysylltu â'r eithriadau a restrir ynddi. Dyfynnais Gymdeithas Pobl Fyddar Prydain hefyd, a oedd wedi dweud wrthyf fod fy Mil BSL arfaethedig yn gam enfawr ymlaen ac os yw'n unrhyw beth tebyg i'r Bil BSL yn yr Alban, bydd yn cael cefnogaeth unfrydol y pleidiau i gyd. Bydd pawb ar eu hennill, meddent. Gydag Aelodau o bob plaid yn pleidleisio o blaid y cynnig y diwrnod hwnnw, gan ddangos awydd amlwg am ddeddfwriaeth BSL o'r fath ar draws Siambr y Senedd, a chyda phobl a chymunedau B/byddar ledled Cymru yn parhau i ofyn imi gyflwyno Bil BSL yng Nghymru, rwy'n awyddus i barhau i fynd ar drywydd hyn a gofyn am eich cefnogaeth.
Roeddwn wrth fy modd pan gyflwynodd yr AS Llafur Rosie Cooper ei Bil BSL yn Senedd y DU, wedi'i gyd-gyflwyno gan y Ceidwadwr, yr Arglwydd Holmes o Richmond. Llwyddodd i sicrhau cefnogaeth Llywodraeth y DU, cafodd ei basio ym mis Mawrth, ac fe enillodd Gydsyniad Brenhinol ym mis Ebrill. Mae Deddf y DU yn cydnabod BSL fel iaith yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, yn ei gwneud yn ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol adrodd ar hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o BSL gan adrannau gweinidogol Llywodraeth, ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i ganllawiau gael eu cyhoeddi mewn perthynas â BSL. Fodd bynnag, er bod Deddf y DU yn creu dyletswydd i Lywodraeth y DU baratoi a chyhoeddi adroddiadau BSL sy'n disgrifio'r hyn y mae adrannau Llywodraeth wedi'i wneud i hyrwyddo'r defnydd o BSL yn eu cyfathrebiadau â'r cyhoedd, mae'n benodol yn eithrio adrodd ar faterion sydd wedi'u datganoli i Gymru a'r Alban. Nid yw'r Bil yn ymestyn y ddyletswydd adrodd na'r canllawiau i Lywodraethau Cymru a'r Alban. Felly, mae fy nghynnig heddiw ynglŷn â'r angen am Ddeddf BSL sy'n benodol i Gymru hefyd yn ymgorffori hyn. Fel y dywed Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain,
'Nid iaith yn unig yw BSL; mae hefyd yn borth i ddysgu...a'r modd y mae pobl Fyddar yn goroesi ac yn ffynnu mewn byd sy'n clywed.'
Ddoe ddiwethaf, dywedodd Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw Cymru wrthyf eu bod yn cefnogi'r cynnig hwn ar gyfer Bil BSL Cymru, a chan fod San Steffan a Holyrood bellach wedi pasio Biliau BSL, eu bod yn gobeithio y byddai'r Bil hwn yn ategu'r darnau hynny o ddeddfwriaeth ac yn helpu i wella'r ddarpariaeth o BSL ledled Cymru, a bod amcanion polisi'r Bil arfaethedig yn gadarnhaol, ac yn mynd y tu hwnt i Ddeddf BSL San Steffan drwy gynnwys ymrwymiad i gynhyrchu adroddiadau bob pum mlynedd, a fydd yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar gynnydd gweithredu'r Bil.
Er bod Llywodraeth Cymru wedi comisiynu archwiliad o'u darpariaeth BSL yn ôl siarter BSL Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain, nid yw wedi'i gyhoeddi eto, ac mae'r Gymdeithas wedi dweud wrthyf mai thema gyffredin sy'n dod i'r amlwg o'r gymuned fyddar Gymreig yw awydd am fwy o arweinyddiaeth fyddar Gymreig wrth ddarparu gwasanaethau BSL; i wasanaethau BSL gael eu darparu gan arwyddwyr BSL i'r byddar; ac am gymorth i alluogi cynllunio proffesiynol dan arweiniad pobl fyddar a gosod cyllideb ar gyfer materion BSL. Maent yn dweud ei bod yn ymddangos mai'r rheswm am hyn yw oherwydd bod arwyddwyr BSL i'r byddar yng Nghymru wedi gweld Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol Cymru, gyda'r ewyllys orau yn y byd, yn gwario arian a glustnodwyd ar gyfer gwasanaethau BSL ar dalu rhai nad ydynt yn arwyddwyr i gynllunio a darparu'r gwasanaethau BSL hyn, gyda'r canlyniadau dealladwy ac anochel nad yw cynllun y gwasanaethau yn cydweddu ag angen gwirioneddol, gan leihau effeithlonrwydd a gwerth am arian. Maent yn ychwanegu y byddai comisiynydd BSL sydd â'r un pwerau â chomisiynwyr ieithoedd lleiafrifol eraill, megis ym Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, Deddf yr Iaith Aeleg (Yr Alban) 2005, a Bil Hunaniaeth ac Iaith (Gogledd Iwerddon) 2022 sy'n aros am Gydsyniad Brenhinol ar hyn o bryd, yn cyfleu neges bwysig o gefnogaeth i'r gymuned F/fyddar yng Nghymru.
Yn unol â'r model cymdeithasol o anabledd, mae'r cynnig hwn yn cynnig Bil sy'n ceisio cael gwared ar y rhwystrau sy'n bodoli i bobl fyddar a'u teuluoedd mewn addysg, iechyd, gwasanaethau cyhoeddus, gwasanaethau cymorth a'r gweithle, ac ymestyn dyletswyddau i Weinidogion Cymru ar faterion datganoledig sy'n cyfateb i'r rhai sy'n berthnasol i Weinidogion y DU yn Lloegr. Am resymau'n ymwneud â moesoldeb, ymarferoldeb a chydraddoldeb, rwyf felly'n annog pob Aelod i bleidleisio o blaid y cynnig hwn. Diolch.