Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 7 Rhagfyr 2022.
Perffaith. Diolch. Yn gyntaf, hoffwn dalu teyrnged i waith caled ac ymroddiad fy nghyd-Aelod Mark Isherwood wrth iddo ymladd yn barhaus ac yn frwd dros gyflwyno Bil BSL yng Nghymru. Rwy'n mawr obeithio na fydd ei waith ef a gwaith llawer o bobl eraill sy'n gysylltiedig â hyn yn ofer ac y bydd Bil BSL yn cael ei gyflwyno yn y pen draw, oherwydd yn onest, bydd gwneud darpariaeth statudol ar gyfer defnyddio Iaith Arwyddion Prydain heb amheuaeth yn gwella mynediad at addysg ac at wasanaethau ac yn helpu pobl fyddar a'r rhai sydd â phroblemau clyw i integreiddio'n llawn ym mhob agwedd ar fywyd yng Nghymru, rhywbeth y cânt eu hamddifadu ohono ar hyn o bryd.
Mewn sawl ffordd, o ystyried yr holl ymdrechion y mae'r Llywodraeth hon yn eu gwneud wrth osod nodau iechyd a llesiant, rwy'n synnu nad yw'r Bil hwn eisoes wedi'i gyflwyno, oherwydd rwy'n siŵr y byddai'n cael cefnogaeth drawsbleidiol ysgubol, a byddai'n cael effeithiau hynod gadarnhaol ar y gymuned fyddar a'r rhai sy'n drwm eu clyw.
Rwyf wedi datgan o'r blaen yn y Siambr hon—ac nid oes gennyf gywilydd ailadrodd y pwyntiau hyn eto—fod defnyddwyr BSL yn wynebu llawer o rwystrau rhag cael mynediad at wasanaethau a cheisio byw eu bywydau bob dydd, yn enwedig wrth gael mynediad at ddarpariaeth gofal iechyd. Mae 68% o ddefnyddwyr BSL yn profi rhwystrau gwaharddol dro ar ôl tro wrth gysylltu neu drefnu apwyntiadau gofal iechyd, oherwydd eu bod yn gorfod teithio i feddygfeydd i ofyn am eu hapwyntiadau, a gorfod aros am apwyntiad a allai gael ei ganslo ar fyr rybudd os nad oes dehonglwr ar gael.
Hyd yn oed pan fydd pobl fyddar yn llwyddo i gael apwyntiad, fe wyddom hefyd fod 38 y cant wedi dweud eu bod wedi cael trafferthion cael y cymorth cyfathrebu BSL sydd ei angen arnynt, gyda nifer uchel yn adrodd eu bod wedi'u gadael heb wybod yn iawn beth oedd manylion eu diagnosis a heb ddealltwriaeth ynglŷn â'u presgripsiynau ar ôl eu hapwyntiad, a gadewch inni fod yn onest, mae honno'n sefyllfa go frawychus i fod ynddi, ac yn adlewyrchiad trist o'r modd na chaiff y rhai sy'n cael eu gwthio i'r cyrion eu trin â'r un gofal a sylw ag eraill yn aml.
Gwyddom ymhellach y gall gwahardd defnyddwyr BSL byddar gael mwy o effaith ar eu hiechyd meddwl a'u llesiant, gyda 33 y cant o ddefnyddwyr BSL yn dweud eu bod yn aml neu bob amser yn teimlo'n unig, sydd chwe gwaith yn uwch na phobl nad ydynt yn anabl. Dyma pam ei bod mor bwysig fod gwasanaethau a mannau cyhoeddus yn cael eu gwneud yn hygyrch i ddefnyddwyr BSL.
Ar draws y DU, ceir prinder dehonglwyr BSL cymwys a chofrestredig, sy'n cyfyngu ar allu darparwyr gwasanaethau i fod yn hygyrch i arwyddwyr BSL i'r byddar. Yn ôl cyfrifiad diweddar Cymru a Lloegr, mae 26,000 o bobl yn defnyddio BSL—fel y nododd fy nghyd-Aelod Laura—fel eu prif iaith, a dim ond 1,400 o ddehonglwyr cofrestredig sydd i'w cael. Rwy'n credu y dylai hyn fod yn ddigon o reswm i gyflwyno deddfwriaeth a fydd yn helpu i annog a hyrwyddo dehonglwyr BSL fel proffesiwn.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, mae cynnig Mark yn hanfodol er mwyn gwella iechyd a llesiant y gymuned fyddar yma yng Nghymru. Bydd yn helpu i greu byd gwell iddynt hwy ac i genedlaethau'r dyfodol fyw ynddo. Hoffwn annog pawb yma i'w gefnogi. Diolch.