Part of the debate – Senedd Cymru am 4:21 pm ar 7 Rhagfyr 2022.
Diolch. Wel, yn gyntaf, diolch yn fawr iawn i Mike Hedges am eich cefnogaeth i'r cynnig hwn. Fel y dywedodd, mae cymunedau byddar yn defnyddio BSL fel eu prif ddull o gyfathrebu ac i gymunedau byddar, mae'r ddeddfwriaeth hon yn bwysig. Diolch i Laura Anne Jones am ei sylwadau. Fel y dywedodd, byddai hyn yn creu newid cadarnhaol ar gyfer BSL mewn addysg. Tynnodd sylw at y cynnydd yn nifer y bobl sy'n defnyddio BSL, yr angen i addasu i ddefnyddio BSL mewn gwasanaethau cyhoeddus a bywyd bob dydd, a'r angen i ganiatáu i fyfyrwyr gael cymwysterau drwy gyfrwng BSL. Mae Joel James—eto, diolch am eich cyfraniad—yn gobeithio, fel rwyf innau, y bydd y Bil BSL yn cael ei gyflwyno yng Nghymru yn y pen draw i helpu pobl fyddar, i rymuso pobl fyddar ac i gael gwared ar rwystrau a nodir ganddynt. Fel y dywedodd, byddai'r Ddeddf yn cael effeithiau cadarnhaol iawn ar bobl fyddar sydd ar y cyrion, gan gynnwys mynediad at ddarpariaeth gofal iechyd, ac esboniodd fod y diffyg cymorth ar hyn o bryd yn effeithio ar broblemau iechyd meddwl a lles meddyliol ymhlith pobl fyddar, sydd chwe gwaith yn uwch nag yn y boblogaeth gyffredinol.
Diolch i'r Gweinidog am ei sylwadau. Fel y dywedodd, mae'n bwysig fod pob unigolyn byddar yn cael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau. Cyfeiriodd y Gweinidog at yr adroddiad 'Drws ar Glo' a'r tasglu hawliau pobl anabl. Efallai y bydd yn cofio, yn ystod misoedd cyntaf y cyfyngiadau symud, fod Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw, Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall, Cŵn Tywys Cymru a minnau wedi cael cyfarfodydd ar-lein gyda grwpiau o oedolion ag anableddau dysgu, a nodwyd y rhwystrau roeddent wedi dod ar eu traws ers y cyfyngiadau symud na chynlluniwyd ar eu cyfer o ddechrau'r newidiadau a gyflwynwyd ar ôl y cyfyngiadau symud am nad oedd dyletswyddau ar Weinidogion na chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru i wneud hyn yn rhagweithiol, i gydgynhyrchu'r pethau hyn yn awtomatig. A phan godais hyn, fe fynychodd y Gweinidog y grŵp trawsbleidiol ar anabledd, ac fe wneuthum innau fynychu'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol pan godais hyn hefyd, ac fe wneuthum ymateb, ond rwy'n gobeithio y byddai'r Gweinidog yn cytuno na ddylai fod wedi digwydd yn y lle cyntaf. Ni ddylem fod wedi gorfod cyrraedd y pwynt hwnnw. A dyna beth mae'r Bil hwn yn ceisio ei wneud, ar gyfer pobl f/Fyddar a defnyddwyr BSL, o leiaf.
Rydym yn croesawu'r archwiliad y bu Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain yn ei wneud dros Lywodraeth Cymru ar y materion hyn. Wrth gwrs, mae'r Gymdeithas wedi bod yn rhoi gwybodaeth i mi a'r grŵp trawsbleidiol ar faterion byddar am hyn drwy gydol y broses. Er hynny, maent yn cefnogi fy nghynnig ar gyfer Bil ac mewn gwirionedd, cafodd cynnig heddiw ei saernïo gyda hwy, gan sicrhau bod safbwyntiau'r bobl y maent yn eu cynrychioli'n cael eu mynegi o'i fewn.
Cyfeiriodd y Gweinidog at yr angen—fe wnaf orffen gyda hyn—am ddehonglwyr BSL. Rwy'n cofio, yn ystod fy nhymor cyntaf, eich ail dymor chi, roedd gennych raglen o ddehonglwyr BSL, a chafodd llawer mwy o bobl eu derbyn a'u hyfforddi i lefel uchel, ond nid yw'n gweithio nawr. Ceir prinder enfawr, fel y dangoswyd gan y ffaith fy mod, yr wythnos diwethaf, wedi gofyn i'r Senedd ddarparu cyfieithiad ar y pryd ar gyfer y ddadl hon. A gwn o'r cyfathrebiadau a gefais fod llawer o bobl fyddar gofidus iawn y tu allan i'r Senedd a oedd eisiau dilyn y ddadl hon yn fyw, sy'n teimlo ein bod wedi torri ein dyletswyddau iddynt o dan y model cymdeithasol o anabledd a Deddf Cydraddoldeb 2010, a bydd rhaid iddynt edrych i weld yn nes ymlaen a allant edrych ar gyfieithiad dilynol. Rwy'n gresynu at y ffaith bod hynny wedi digwydd. Ond er hynny, rwy'n croesawu'r gefnogaeth a glywsom gan yr ychydig siaradwyr heddiw. Hoffwn pe baem wedi cael mwy o amser i drafod hyn. Ac os gwelwch yn dda, Aelodau, rwy'n eich annog i ganiatáu i hyn ddigwydd, mewn egwyddor o leiaf, i ategu'r bleidlais gadarnhaol a gawsom ym mis Chwefror y llynedd. Diolch yn fawr.