Part of the debate – Senedd Cymru am 4:08 pm ar 7 Rhagfyr 2022.
Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod Mark Isherwood am gyflwyno'r cynnig heddiw. Byddai'n gwneud Bil ardderchog, ac un sy'n angenrheidiol. Rwy'n gobeithio y byddai'n ein gorfodi i fod yn llawer gwell yng Nghymru am ystyried anghenion Iaith Arwyddion Prydain. Un maes lle credaf y byddai hyn yn arwain at newid cadarnhaol yw gydag Iaith Arwyddion Prydain mewn addysg, fel mae fy nghyd-Aelod wedi crybwyll yn barod. Mae data diweddar y cyfrifiad yn dangos mai Iaith Arwyddion Prydain oedd prif iaith 22,000 o bobl tair oed a hŷn ar draws Cymru a Lloegr, cynnydd o dros 6,000 ers 2011. Gyda chynnydd yn y rhai sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, ni fu erioed yn bwysicach fod yna fwy o ymwybyddiaeth a'n bod yn addasu i ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain mewn addysg, gofal iechyd, busnes a bywyd bob dydd. Mae hyn yn rhoi ffocws i'r angen dybryd i sicrhau bod ein system addysg yn adlewyrchu'r gymuned iaith arwyddion sy'n tyfu. Edrychaf ymlaen at glywed safbwyntiau ein Gweinidog Addysg—a'ch rhai chi, Weinidog—ar Iaith Arwyddion Prydain a'i defnydd mewn ysgolion ac arholiadau.
Mae Cymwysterau Cymru yn honni bod ystod o gymwysterau Iaith Arwyddion Prydain ar gael yn y fframwaith credyd a chymwysterau ar hyn o bryd, gyda rhai ar lefelau 1 a 2, sef TGAU i bob pwrpas. Fodd bynnag, Ddirprwy Lywydd, nid oes gan unman yng Nghymru allu na chyfleusterau mewn gwirionedd i ddarparu'r cymwysterau hanfodol hyn. Rwy'n credu y byddai'n rhaid iddynt fynd i Loegr i wneud yr arholiad. Ac er bod Cymwysterau Cymru wedi nodi y bydd cymhwyster BSL newydd ar gyfer Cymru wedi'i anelu at ddysgwyr oedran ysgol, nid yw'n ymddangos y bydd y rhain ar gyfer dysgwyr oedran TGAU. Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU wedi dechrau datblygu cynnwys pwnc i weld a yw'n bosibl darparu BSL mewn lleoliadau ysgol arferol. Mae dau o fyrddau BSL y DU gyfan, Signature a Sefydliad Iaith Arwyddion Prydain, yn caniatáu i blant ddilyn cymwysterau drwy gyfrwng Iaith Arwyddion Prydain, er fel y dywedais, nid oes unrhyw ysgolion yng Nghymru'n gallu cyflawni'r broses arholi hon. Yn y DU, ceir 22 o ysgolion gyda darpariaeth ar gyfer plant byddar: 18 yn Lloegr, tair yn yr Alban, un yng Ngogledd Iwerddon a dim un yng Nghymru—ac nid yw hyn yn rhywbeth y dylem fod yn falch ohono. Rwy'n gwybod y bydd y Bil hwn yn mynd gryn dipyn o ffordd i sicrhau y bydd pethau'n gwella i'n cymuned fyddar yng Nghymru. Rwy'n falch o gefnogi'r cynnig deddfwriaethol hwn, ac rwy'n annog pob Aelod ar draws y Siambr i gefnogi'r cynnig hwn heddiw.