Part of the debate – Senedd Cymru am 4:33 pm ar 7 Rhagfyr 2022.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwyf wrth fy modd fod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi gwaith y Pwyllgor Deisebau ac wedi derbyn ei argymhellion. Rwy'n arbennig o falch o weld bod y Llywodraeth hon wedi cydnabod, er mwyn darparu arweinyddiaeth a chydgysylltu clir ac effeithiol ar gyfer diogelwch dŵr ac atal boddi, fod angen trosolwg gan un portffolio gweinidogol. Hoffwn achub ar y cyfle hwn hefyd i ddiolch i deulu Mark Allen am eu hymgyrchu diflino ar y mater a’u dyhead i sicrhau nad oes unrhyw deulu arall yn mynd drwy’r hyn y maent hwy wedi mynd drwyddo. Ni allaf ond dychmygu'r trawma a achosodd hynny.
Bob haf, mae cymaint o bobl yn ceisio mynd i nofio mewn dŵr agored, ac yn anffodus, nid yw'r sefyllfa hon yn debygol o newid yn fuan. Er fy mod yn cydnabod bod angen gwneud llawer mwy i helpu i ddysgu pobl i nofio, mae'n rhaid inni gofio mai gorhyder rhai nofwyr sy’n aml yn eu rhoi mewn perygl, am eu bod yn cymryd gormod o risgiau. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth, felly, y bydd ymgyrchoedd wedi’u targedu, yn enwedig mewn cyd-destun lleol, ac yn ystod misoedd yr haf mewn ardaloedd sy’n enwog am eu cyfleoedd i nofio mewn dŵr agored, yn hynod effeithiol wrth helpu pobl i ystyried y risgiau'n fwy gofalus wrth fynd i ddŵr agored, a dylem roi blaenoriaeth i’r ymgyrchoedd hyn ar y teledu, ar y radio, ar y cyfryngau cymdeithasol, yn y sinemâu lleol ac yn y newyddion lleol, ac amlygu peryglon nofio mewn dŵr agored. Yn ogystal, mae angen inni wneud mwy na dim ond cael arwyddion sy'n dweud 'Dim nofio' neu 'Ceryntau peryglus', oherwydd—a gwn nad dyna yw eu bwriad, ond—yn aml, ni chânt eu hystyried yn ddim mwy nag arwyddion sydd wedi'u gosod ar hap, gyda phobl prin yn rhoi unrhyw ystyriaeth i ba mor gywir ydynt. Gyda hyn mewn golwg, byddwn yn annog ystyriaeth i arwyddion sy’n egluro’r risgiau’n llawn, ac yn rhoi dadansoddiad cyflawn o’r hyn a all ddigwydd. Credaf y dylai'r arwyddion hyn hefyd amlygu nifer y marwolaethau ac egluro'r ardal ddaearyddol o dan y dŵr yn fanwl, a fydd yn atgyfnerthu pam nad yw'n ddiogel i fynd i mewn i'r dŵr. Dylai'r arwyddion hyn gynnwys cyfarwyddiadau diogelwch a gweithdrefnau achub bywyd hefyd.
Hefyd, o ystyried nifer yr achosion o bobl yn mynd yn sâl drwy nofio mewn afonydd â gorlifoedd carthion amrwd, rwy'n credu y dylem dynnu sylw at ardaloedd lle mae carthion amrwd yn cael eu gollwng i'r dŵr yn aml ac egluro peryglon nofio yn y dŵr hwnnw. Lle mae gennym dwristiaid yng Nghymru sy’n nofwyr gwyllt ac sy’n aml yn chwilio am ddŵr agored, nid oes ganddynt wybodaeth leol am achosion o lygredd.
Gyda hyn mewn golwg, Ddirprwy Lywydd, ni allaf bwysleisio digon pa mor bwysig yw'r ddeiseb hon a darparu mwy o wersi nofio i blant ysgol, a helpu pawb i ddeall diogelwch dŵr yn well. A hoffwn annog Llywodraeth Cymru i gymryd yr argymhellion y maent wedi'u derbyn o ddifrif, a gwneud popeth yn eu gallu i fynd i'r afael â'r materion sy'n gysylltiedig â hyn. Rwyf fi a fy ngrŵp yn cefnogi’r ddeiseb hon yn llwyr, a hoffwn annog pob Aelod arall i wneud hynny. Diolch.