Part of the debate – Senedd Cymru am 4:48 pm ar 7 Rhagfyr 2022.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn i Jack am gyflwyno'r ddadl a rhoi'r cyfle imi siarad am ddiogelwch dŵr ac atal boddi.
Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddechrau, fel y byddech yn disgwyl, drwy gydymdeimlo â theulu Mark Allen ac unrhyw un arall yng Nghymru sydd wedi cael eu heffeithio gan achosion o foddi, gan eu bod, fel y dywedodd Vikki Howells, yn gwbl ddinistriol, ac maent yn dinistrio nid yn unig y teuluoedd ond y cymunedau o amgylch y teuluoedd hynny hefyd. Mae gwir angen inni fod yn ymwybodol iawn o hynny. Hoffwn ddiolch hefyd i’r ymgyrchwyr sydd wedi cyfrannu eu hamser ac sydd wedi darparu sylwadau gwerthfawr i lywio’r adroddiad ac am eu gwaith parhaus i godi ymwybyddiaeth, sy’n arbennig o ddewr yn sgil y drasiedi o golli mab, ffrind, ac aelod o'ch cymuned.
Hoffwn ddiolch hefyd i holl aelodau'r Pwyllgor Deisebau am gynhyrchu adroddiad 'Cyfraith Mark Allen: Diogelwch dŵr ac atal boddi' gan ei fod yn adroddiad da iawn wir, ac rwy'n falch iawn o allu derbyn yr argymhellion ynddo.
Fel y mae’r adroddiad yn nodi, mae gormod o achosion sy'n gysylltiedig â dŵr yn digwydd yng Nghymru o hyd. Bydd yr argymhellion yn yr adroddiad yn gwella strategaeth atal boddi Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2020 gan Diogelwch Dŵr Cymru.
Rwyf am siarad ychydig am hynny, gan fod cyfraniadau amrywiol heddiw yn llygad eu lle: mae angen inni dynnu'r gwahanol sectorau ynghyd yma, gan fod hyn yn ymwneud â diogelwch dŵr, wrth gwrs, ond mae hefyd yn ymwneud ag annog pobl i ddefnyddio ein gwasanaethau awyr agored gwych yn y ffordd gywir ac o dan yr amgylchiadau cywir. Mae'n ffaith dra hysbys fy mod yn hoff iawn o nofio gwyllt mewn dŵr oer, ac rwy'n fwy na pharod i ganu clodydd y math hwnnw o nofio. Hoffwn pe bawn wedi cael cyfle i wneud hynny tra bod yr annwyd hwn arnaf, gan fy mod yn siŵr y byddai wedi fy helpu i'w osgoi, sydd efallai'n swnio'n rhyfedd i bobl, ond mewn gwirionedd, os gallwch fynd i mewn i'r dŵr, gall hynny ddarparu buddion gwirioneddol. Rwy'n ei ganmol. Nid wyf mor frwdfrydig â'r bobl ym Mhenarth sy'n mynd i'r môr gyda'r wawr bob dydd, ond rwy'n hoff iawn, serch hynny, o'r mathau hynny o weithgareddau.
Ond mae hynny'n fwy o reswm fyth dros sicrhau nad yw’r drasiedi a arweiniodd at yr adroddiad heddiw yn digwydd eto, ac mae nifer o bethau y gallwn eu gwneud yn y cyswllt hwnnw. Gallwn wneud y pethau y mae’r adroddiad yn eu nodi o ran addysg ac ymwybyddiaeth, gallwn wneud y pethau am yr arwyddion, gallwn wneud y pethau ynghylch cortynnau taflu, ond ni allwn wneud y pethau hynny ym mhobman. Fel y dywedodd Huw, bydd yna ardaloedd yng Nghymru lle nad yw hynny'n addas. Felly, yr hyn y mae angen inni ei wneud hefyd yw codi ymwybyddiaeth o ble mae’n ddiogel mynd i nofio gwyllt, a pham y gall plymio i ddŵr oer, yn enwedig ar ddiwrnod poeth, fod yn broblem wirioneddol. Ac unwaith eto, yn groes i'r hyn y byddai pobl yn ei feddwl, mae'n waeth gwneud hynny ar ddiwrnod poeth nag ar ddiwrnod oer, oherwydd y newid eithafol yn nhymheredd y corff.
A hefyd, nid yw'n ymwneud â gallu nofio. Wrth gwrs, byddwn wrth fy modd pe bai pawb yng Nghymru yn gallu nofio, er mwyn y llawenydd pur o allu gwneud, ond hefyd, yn amlwg, oherwydd y posibilrwydd o achub bywydau. Rydym yn genedl arfordirol, yn genedl sy'n hoff iawn o'i dŵr, felly wrth gwrs, dylai ein pobl allu manteisio'n llawn ar y cyfleoedd a gynigir. Ond yn anffodus, mae llawer o'r bobl sy'n boddi mewn dŵr yn gallu nofio'n dda iawn. Nid dyna'r broblem. Y broblem yw eu bod naill ai'n cael eu dal gan wahaniaeth eithafol yn y tymheredd sy'n sioc i'r corff, neu'n cael eu dal mewn cerrynt, neu'n cael eu dal mewn amgylchiadau eraill, digwyddiadau gyda badau eraill ar y dŵr ac ati. Mae hynny'n digwydd. Dyma'r digwyddiadau y mae angen inni edrych arnynt yn ofalus.
Mae'n rhaid inni wneud hyn mewn ffordd sy’n annog y math iawn o nofio gwyllt neu nofio awyr agored yn y lle iawn. Felly, byddwn yn dweud, er enghraifft, fod nofio gwyllt yn weithgaredd cymunedol iawn i mi. Ni fyddwn yn breuddwydio am fynd i wneud hynny ar fy mhen fy hun. Gwn fod rhai pobl yn gwneud hynny, ond ni fyddwn yn annog hynny. Mae dod at ein gilydd gyda grŵp o bobl o'r un anian, sy'n gyfarwydd â'r dŵr y maent ynddo ac sy'n barod i'ch helpu os byddwch yn mynd i drafferthion, yn rhan fawr iawn o hyn. Mae'n rhan o'r gymuned ac yn rhan o'r pleser, ond mae hefyd yn rhan o ddiogelwch y peth. Os ydych gyda rhywun arall, gall yr unigolyn hwnnw sicrhau eich bod yn cael cymorth cyn gynted â phosibl. Felly, byddwn yn sicr yn annog gwneud hyn fel gweithgaredd cymunedol.
Mae angen inni gael yr ymwybyddiaeth honno ac mae angen inni sicrhau bod pobl yn deall nad yw'r arwyddion yno er mwyn difetha eich hwyl—maent yno am reswm da i esbonio i chi beth yw amodau'r dŵr, sut mae'r pethau na allwch eu gweld o dan y dŵr yn edrych, a beth yw'r sefyllfa o ran y cerrynt. Byddwn hefyd yn annog pobl, lle mae achubwyr bywydau'n bresennol, i sicrhau eu bod yn gwneud yr hyn y mae’r achubwyr bywydau yn gofyn iddynt ei wneud. Rydym yn gweld pobl yn aml yn anwybyddu'r arwyddion ac yn y blaen, heb ddeall y cryfder a'r pŵer sydd gan ddŵr pan nad yw'n cael ei drin â pharch. Felly, mae angen inni gynyddu ymwybyddiaeth o ddiogelwch dŵr ledled Cymru, ac mae angen inni helpu pobl i gael mwy o wybodaeth a gallu barnu peryglon eu hamgylchedd drostynt eu hunain yn y ffordd gywir.
Rwy'n falch iawn o fod wedi derbyn yr argymhellion, Jack. Rwy'n falch fy mod wedi cymryd cyfrifoldeb yn fy mhortffolio am wneud hyn. Mae'n gweddu i fy agwedd at y mater hefyd. Credaf eich bod yn iawn: mae angen i rywun edrych ar y sefyllfa gyfan mewn perthynas â phopeth a wnawn. Felly, rwy'n falch iawn fy mod wedi cytuno, a'r unig reswm ein bod ond yn cytuno mewn egwyddor yn unig yw am ein bod eisoes yn gwneud rhywbeth tebyg iawn yn y cyswllt hwnnw. Felly, nid ydym yn anghytuno. Rydym yn cytuno â phob un ohonynt.
Rwy'n falch iawn o weithio gyda gweithgareddau awyr agored ac yn enwedig gydag AdventureSmart Cymru er mwyn cael yr arbenigedd hwnnw o bob rhan o'r sector. Mae fy swyddogion eisoes yn rhoi'r argymhellion ar waith ac yn cysylltu â Diogelwch Dŵr Cymru ar y camau nesaf, ac edrychaf ymlaen at fwrw ymlaen â hyn gyda’n gilydd. Ac unwaith eto, rwy'n cydymdeimlo â'r teulu. Diolch.