Part of the debate – Senedd Cymru am 5:11 pm ar 7 Rhagfyr 2022.
Ar y dechrau, os yw rhywun yn gweld yr hyn rydym yn mynd i fod yn sôn amdano wedi ei ysgrifennu ar ddarn o bapur, gallai'r pwnc hwn ymddangos yn sych ac yn dechnegol, ond mewn gwirionedd, mae holl gyfoeth ein byd naturiol wedi'i gynnwys ynddo. Heb amddiffyniad amgylcheddol cadarn a phriodol, bydd pob un ohonom yn cael ein gwneud yn dlawd mewn ffyrdd na allwn hyd yn oed ddechrau eu dychmygu.
Mae cyd-destun hyn wedi cael ei ddisgrifio'n dda yn barod gan aelodau eraill y pwyllgor. Wrth gwrs, hoffwn ychwanegu fy niolch i Gadeirydd y pwyllgor ac i'r tîm pwyllgor gwych ac i'r asesydd interim. Rwy'n gwybod efallai y bydd hi'n anodd i'r asesydd interim glywed rhywfaint o hyn, ond hoffwn ychwanegu at y pwynt sydd eisoes wedi'i wneud: nid yw hyn mewn unrhyw ffordd yn feirniadaeth ar unrhyw un sy'n cyflawni'r swyddogaeth hon ar hyn o bryd, mae'n ymwneud â'r sefyllfa sydd wedi ein cael i lle rydym ni, a phroblemau go iawn a'n anhapusrwydd ynglŷn â sut mae hynny wedi cael ei drin.
Mae colli hawliau Cymru sy'n gysylltiedig â chyfraith amgylcheddol yr UE, yr hen fframwaith a oedd yn caniatáu inni ddwyn corfforaethau a Llywodraethau i gyfrif am niweidio'r byd naturiol, wedi digwydd oherwydd Brexit. Mae gan Brexit lawer o ddioddefwyr; rydym wedi colli cymaint. Rhaid inni gael o leiaf yr un cadernid a oedd gennym dan yr hen fframwaith—rhaid ei ailadrodd yng nghyfraith Cymru. Oherwydd diffyg gweithredu gan Lywodraeth Cymru ar hyn ers y cyfnod pontio, rwy'n ofni ein bod mewn sefyllfa sy'n wirioneddol niweidiol.
Fel sydd wedi cael ei ddweud yn barod, mae hwn yn faes sydd wedi ei ddatganoli. Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn darparu'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer diogelu'r amgylchedd. Y bwriad ar gyfer y mesurau sydd gennym ar hyn o bryd oedd iddynt lenwi bwlch dros dro. Codwyd pryderon hyd yn oed ar y pryd ynglŷn â sut y byddai'r trothwy difrifoldeb yn cael ei gyrraedd o ran pa dor rheolau y dylid eu huwchraddio wrth iddynt gael eu hadrodd. Cafodd pryderon eu codi eto ar y pryd am sail anstatudol y trefniadau, ac roedd hyn yn wir hyd yn oed cyn i'r rôl gael ei gwanhau. Ond mae'n 2022 bellach; mae'r trefniant llenwi bwlch hwnnw'n parhau, ac mae hefyd wedi cael ei israddio. Dim ond goruchwylio gweithrediad cyfraith amgylcheddol y gall yr asesydd interim ei wneud, fel y gallant weld beth yw'r problemau, ond gallu cyfyngedig iawn sydd ganddynt i wneud unrhyw beth yn eu cylch. Mae ein pwyllgor—fel y dywedwyd eisoes—wedi ystyried llawer o'r anawsterau hyn, a'r ffaith nad yw'n ymddangos bod unrhyw ddiwedd yn y golwg i'r cyfnod interim hwn ar hyn o bryd. Hoffwn yn fawr annog y Llywodraeth i flaenoriaethu'r maes hwn gymaint â phosibl, oherwydd yr ansicrwydd y mae'n ei greu.
Nid oes ffordd glir a hygyrch gan ddinasyddion ar hyn o bryd o ddwyn Llywodraeth na llygrwyr i gyfrif. Rwy'n cymryd y pwynt fod y Llywodraeth wedi dweud bod mecanweithiau adolygiad barnwrol yn fodd interim o uwchraddio tor rheolau cyfraith amgylcheddol, ond mae adolygiad barnwrol y tu hwnt i gyrraedd y rhan fwyaf o bobl gyffredin, ac mae hefyd yn mynd yn groes i'r egwyddor, eto, sy'n cael ei nodi yng nghyfraith yr UE, y dylai pob dinesydd gael mynediad cyfartal a hygyrch at gyfiawnder amgylcheddol. Nid yw'n glir sut y gellir gorfodi amddiffyniadau amgylcheddol felly. Fel mae Cyswllt Amgylchedd Cymru wedi dweud, ac rwy'n dyfynnu eu geiriau,
'Mae'n amlwg nad yw'r trefniadau interim yn llwybr i gyfiawnder amgylcheddol nac ychwaith yn cymryd lle'r swyddogaeth oruchwylio a gorfodi sydd ei hangen i gymryd lle yr hyn a ddarperir gan sefydliadau'r UE'.
Mae'n dal i fod yn aneglur pryd y bydd deddfwriaeth, pryd y bydd unrhyw ateb parhaol yn cael ei gyflwyno. Ddirprwy Lywydd, rwy'n credu mai'r hyn a welwn o ganlyniad yw anghyfiawnder amgylcheddol ar adeg pan ydym yn byw drwy argyfwng natur, adeg sy'n galw am wyliadwriaeth yn lle llaesu dwylo.
Pan fydd y Gweinidog yn ymateb i'r ddadl, byddwn yn falch o glywed faint yn hwy y mae'r Llywodraeth yn rhagweld y bydd angen y trefniadau interim hyn yn ogystal â phryd y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth i ddarparu ateb mwy parhaol. Eto, yn amlwg, credaf fod y Gweinidog eisiau cael hyn yn iawn, wrth gwrs fy mod yn credu hynny, ond byddai cael y sicrwydd hwn, byddai cael y parhad hwn yn tawelu pryderon pobl, a byddai hefyd yn cywiro'r anghyfiawnder amgylcheddol go iawn sy'n digwydd yn y cyfnod interim gwirioneddol flêr hwn. Byddai'n ddefnyddiol gwybod a yw'r Llywodraeth wedi cynnal asesiad risg o oblygiadau diffyg trefniadau llywodraethu amgylcheddol sy'n gyfreithiol rwymol yng Nghymru. A yw hynny wedi digwydd, tybed? A faint o achosion o dorri rheolau cyfraith amgylcheddol sydd wedi eu hadrodd i'r asesydd interim ers mis Chwefror 2021? Unwaith eto, pan fydd y Gweinidog yn ymateb, byddwn yn falch o glywed ei syniadau ar y pwyntiau hynny. Ond unwaith eto—