Part of the debate – Senedd Cymru am 5:27 pm ar 7 Rhagfyr 2022.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu i'r drafodaeth. Diolch yn arbennig i'r Gweinidog am ei hymateb cadarnhaol, nawr, wrth ymateb i'r ddadl, ond hefyd wedi'i adlewyrchu yn y ffaith bod yr argymhellion wedi'u derbyn yn llawn—rŷn ni'n gwerthfawrogi hynny.