Part of the debate – Senedd Cymru am 5:28 pm ar 7 Rhagfyr 2022.
Rwy'n codi i ymuno ag ef yn ei ganmoliaeth o'n cyd-aelodau ar y pwyllgor, Janet, oherwydd mae cael yr unfrydedd hwnnw'n foment arwyddocaol—ydy wir. Os ydym i gyd yn gytûn, ar draws Siambr y Senedd, ar y llywodraethu a'r rheoliadau amgylcheddol gorau posibl i'n diogelu, gan roi Brexit i'r naill ochr neu beth bynnag, mawredd, mae hwnnw'n lle da i fynd ymlaen ohono y tu ôl i'r Gweinidog. Felly, da iawn, Janet, yn ogystal â'r Gadair.