Part of the debate – Senedd Cymru am 5:31 pm ar 7 Rhagfyr 2022.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd, ac rwy'n gwneud y cynnig hwn heddiw, a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar. Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad heddiw drwy gofnodi fy nghydymdeimlad unwaith eto â thad Logan Mwangi, Ben, ei deulu, ei ffrindiau, ei ysgol a'i rwydwaith cymdeithasol ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Nid oes unrhyw beth y gallwn ei ddweud na'i wneud a all leddfu'r boen a'r tristwch y maent yn siŵr o fod yn ei deimlo ar yr adeg anodd hon ac yn y dyfodol, ac ni all unrhyw beth leihau drygioni a chreulondeb yr unigolion ffiaidd a fu'n cam-drin Logan am gyfnod hir, gan arwain at ei lofruddio. Rwy'n falch fod y lefel briodol o gyfiawnder wedi'i gweinyddu i'r tri a gyflawnodd y drosedd a'u bod bellach wedi'u dedfrydu i garchar.
Mae marwolaeth plentyn, yn enwedig yn amgylchiadau marwolaeth Logan Mwangi, yn drasiedi na ddylem fyth ei anghofio. Yn yr un modd, mae trychineb o'r fath yn galw am ymdrechion gan Llywodraeth Cymru i sicrhau na all fyth ddigwydd eto. Mae Logan, ei deulu, a phob plentyn yng Nghymru yn haeddu'r sicrwydd y byddwn yn cynnal adolygiad cenedlaethol o wasanaethau cymdeithasol plant yng Nghymru a'r sicrwydd na fydd ein plant yn cael cam oherwydd eu bod yn byw yng Nghymru.
Cymru sydd â'r gyfradd uchaf yn y DU o blant sy'n derbyn gofal, felly mae'n hanfodol fod y Llywodraeth hon yn dangos arweiniad. Ar ôl i'r Prif Weinidog rwystro adolygiad am fisoedd, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn galw arno unwaith eto i ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael iddo i roi plant yn gyntaf yng Nghymru. Mae adolygiadau fel y rhain yn gweithio, ac yn helpu i sicrhau bod byth eto'n golygu byth eto. Ni fyddant yn atal llofruddiaeth drasig plant, yn anffodus, ond maent yn sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu a bod modd rhoi mesurau ataliol ar waith yn gynharach i ddiogelu plant.
Yn Lloegr, fe wnaeth yr adolygiad i lofruddiaethau Arthur Labinjo-Hughes a Star Hobson flaenoriaethu'r hyn a aeth o'i le, pam y digwyddodd, a beth y gellir ei wneud i atal digwyddiadau o'r fath rhag digwydd eto. Cafodd wyth o argymhellion eu cyflwyno, felly mae gan Lywodraeth y DU ganllawiau clir ar ble i wella. Yn yr Alban, mae adolygiadau cyfnodol gan yr Arolygiaeth Gofal wedi bod yn ganllaw canolog ar gyfer adolygiadau achos, ac maent yn darparu argymhellion i Lywodraeth yr Alban yn rheolaidd. Yn yr un modd, ym mis Chwefror, lansiodd Gogledd Iwerddon adolygiad o wasanaethau gofal cymdeithasol plant. Felly, pam fod plant Cymru'n cael eu gadael allan pan fo pob gweinyddiaeth arall yn y DU yn cymryd cyfrifoldeb? Mae hyn yn hanfodol, oherwydd mae marwolaeth Logan Mwangi wedi profi bod yna bryderon fod dibyniaeth ar weithwyr asiantaeth yn peryglu diogelwch plant, a'r ffaith bod y strwythur rheoli yn y GIG yn golygu nad yw staff iau yn gallu herio uwch gydweithwyr, a bod hynny'n creu bygythiad.
Os na fydd yr adolygiad hwn yn mynd rhagddo, bydd pobl Cymru eisiau gwybod pam, unwaith eto, fod y Llywodraeth Lafur yn rhwystro gwaith craffu ar y ffordd y mae'n rheoli'r GIG. Dylai pŵer dros iechyd olygu bod y Llywodraeth yn cymryd cyfrifoldeb, ond fel y gwelsom yn ddiweddar, nid yw hyn yn wir, ac mae'n peri i mi ofyn: a yw'r Llywodraeth yn bryderus ynglŷn â'r hyn y bydd yr adolygiad yn ei ddarganfod? Felly, yn olaf, rwy'n annog pob Aelod o'r Senedd i gefnogi ein cynnig heb ei ddiwygio heddiw. Diolch.