Part of the debate – Senedd Cymru am 6:04 pm ar 7 Rhagfyr 2022.
Rwyf bron â bod eisiau gwneud pwynt o drefn i Alun Davies. Rwy'n credu efallai y bydd yr Aelod eisiau ystyried rhywbeth a ddywedais cyn y ddadl. Rwy'n credu i mi sylwi arnoch yn cerdded i mewn ar ôl i mi ei ddweud, ac roedd yn ystyriaeth o rai o'r pwyntiau a godwyd yr wythnos diwethaf yn ystod y Cyfarfod Llawn. Rwy'n credu ei bod hi'n ddigon posibl fod un ohonynt yn bwynt o drefn gennych chi yr adeg honno. Mae'n rhyfeddol, weithiau, y dylanwad y gallwch ei gael ar y Llywydd.
Iawn, fe symudwn ymlaen at y ddadl nesaf.