Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 13 Rhagfyr 2022.
Diolch, Llywydd. A gaf i, Llywydd, ddymuno Nadolig llawen iawn i chi a'r Prif Weinidog a'r holl Aelodau a blwyddyn newydd heddychlon a hapus, gobeithio?
Ddoe, Prif Weinidog, fe wnaeth y Gweinidog iechyd gyfarfod â'r Coleg Nyrsio Brenhinol ac undebau eraill ynghylch y streic sydd yn yr arfaeth ar gyfer dydd Iau yr wythnos hon a'r wythnos nesaf. Fel yr wyf i'n ei deall hi, ni wnaed unrhyw gynnig yn y cyfarfod hwnnw i geisio datrys y streic arfaethedig fel y gallai ysbytai weithredu a phobl gael yr apwyntiadau sydd eu hangen arnyn nhw. Pam na wnaed unrhyw gynnig i geisio datrys yr anghydfod hwn?