Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 13 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:55, 13 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Dros y dyddiau diwethaf, mae Ysgrifennydd iechyd yr wrthblaid Lafur yn San Steffan, Wes Streeting, wedi cyfeirio at gynnig y Coleg Nyrsio Brenhinol ac Unsain i ohirio streiciau, pe bai Ysgrifennydd iechyd y DU yn barod i drafod cyflogau. Mae hwnnw'n gynnig sy'n rhy dda i'w wrthod, ond dyna mae'r Torïaid yn ei wneud yn San Steffan, a dyna'r ydych chi'n ei wneud yng Nghymru. Fe wnaeth Steve Barclay gyfarfod â'r undebau a gwrthod trafod cyflogau; fe wnaeth Eluned Morgan gyfarfod â'r undebau a gwrthod trafod cyflogau. Ar gyfer Cymru: gweler Lloegr. Ac rydych chi'n dweud bod eich dwylo wedi'u clymu, ond sut, felly, y mae Llywodraeth yr Alban wedi gallu cyrraedd sefyllfa lle mae dau undeb iechyd wedi gohirio eu streiciau, ac eraill wedi eu hoedi tra eu bod yn aros am bleidlais newydd, gan eu bod nhw wedi dod i well cytundeb gyda'r gweithwyr hynny? Rydych chi eich hunain fel Llywodraeth, drwy Trafnidiaeth Cymru, wedi osgoi streic yn Trafnidiaeth Cymru. Pam? Oherwydd eich bod chi'n barod i drafod gwell cytundeb na'r hyn a gynigwyd i'r gweithwyr hynny yn Lloegr. Os gallwch chi ei wneud yn Trafnidiaeth Cymru, pam ddim yn y GIG?