Gofal Diwedd Oes

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 13 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:29, 13 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Llywydd, mae adolygiad Llywodraeth Cymru o ofal hosbis wedi arwain at gynnydd o £2.2 miliwn i gyllid hosbisau o'r flwyddyn ariannol hon ac ymlaen. Mae hynny'n cynnwys gwasanaeth gwych Gofal Hosbis Sefydliad Dewi Sant sy'n gwasanaethu ardal Casnewydd. Mae Cyfnod 2 yr adolygiad yn ystyried gwasanaethau gofal diwedd oes ehangach, gan gynnwys y rhai a ddarperir gan feysydd iechyd, gofal cymdeithasol a'r trydydd sector.