2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 13 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 2:33, 13 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Hoffwn i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, ynglŷn â'r gefnogaeth sy'n cael ei roi i famau a theuluoedd sy'n colli eu babanod cyn 24 wythnos yng Nghymru. Ar hyn o bryd, nid yw menywod sy'n colli babanod cyn hynny yn derbyn tystysgrif geni. Ers mis Gorffennaf, yn Lloegr, mae menywod sy'n dioddef camesgoriad neu feichiogrwydd ectopig neu molar cyn y dyddiad hwnnw yn gallu cael tystysgrif, ac mae llawer o fenywod wedi siarad yn gyhoeddus am sut y gall hynny helpu gyda'r broses o alaru. 

Nid yw tystysgrifau yn unig yn ddigon, wrth gwrs. Fel yr wyf i wedi'i godi o'r blaen, hoffwn i fod cefnogaeth arall yn cael ei roi i famau a theuluoedd yng Nghymru, fel cyfnod mamolaeth a thosturiol i'r rhai sy'n colli babanod yn gynharach yn eu bywydau bach. Ond byddai cyflwyno'r newid hwn yn ymwneud â thystysgrifau geni wir yn helpu cymaint o fenywod i ddygymod â'r golled maen nhw wedi'i dioddef, ac yn eu helpu i gofnodi a choffáu bywydau eu plant. Byddwn i'n croesawu datganiad ar hyn, os gwelwch yn dda.