Part of the debate – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 13 Rhagfyr 2022.
Gaf i ofyn am ddatganiad ar y cynnydd sydd wedi'i wneud yn ystod y 12 mis diwethaf ar gyflwyno metro'r gogledd, ac awgrymu y byddai datganiad blynyddol o gymorth mawr i'r Aelodau? Rydw i hefyd yn gofyn am ddatganiad ynglŷn ag ariannu gwasanaethau bysiau, o ystyried bod gwasanaethau bysiau yn mynd i fod mor amlwg o ran darparu metro'r gogledd. Diolch.