Part of the debate – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 13 Rhagfyr 2022.
Diolch i chi. Ynglŷn â'ch pwynt chi o ran y niferoedd sy'n manteisio ar gyfleoedd rhwng y rhywiau, fe fyddaf i'n edrych ar hynny eto, ond rwy'n dymuno bod yn eglur am yr adolygiad cyllideb sydd gennym ni a chychwyn y warant mewn gwirionedd a'r ddealltwriaeth o ran ein cyfeiriad ni, oherwydd mewn rhai rhannau ohoni, fe fydd hynny'n eglur. Rydym ni'n casglu data eisoes, er enghraifft, am y rhai sy'n mynd i addysg bellach, maen nhw'n bethau rhwydd i'w casglu, yn ogystal â chasglu'r data ar, er enghraifft, y bobl hynny sy'n defnyddio cyfleoedd gwahanol—Twf Swyddi Cymru+, ReAct+ a rhaglenni cyflogadwyedd eraill—fe fydd data ar hynny gennym ni. Fe fydd gennym ni rywfaint o ddata hefyd a fydd yn rhoi dealltwriaeth am nifer o raglenni eraill.
Ond rwy'n awyddus i weld a ydym ni'n cyrraedd pobl, oherwydd dyna ran o ddiben cynnal sgwrs â phobl ifanc. Wyddoch chi, mae yna rieni ifanc sy'n famau a thadau, ond, mewn gwirionedd, rydym ni'n gwybod y ceir gwahaniaeth sylweddol yn aml o ran pethau fel costau gofal plant a beth mae hynny'n ei wneud i allu ymarferol pobl i gael cyfleoedd. Felly, fe fyddwn ni'n edrych nid yn unig ar bwy sy'n manteisio arnyn nhw, ond beth rydym ni'n ei wneud wedyn i geisio sicrhau bod cyfleoedd yn cael eu hehangu hefyd, i geisio sicrhau bod ymateb ystyrlon i'r pwynt yr wyf i'n deall y mae'r Aelod yn ei wneud.
Ynglŷn â'ch pwyntiau chi am yr argyfwng costau byw a phobl ifanc, rydym ni wedi clywed yn uniongyrchol iawn gan bobl ifanc, drwy'r sgwrs genedlaethol yr ydym wedi ei chael am y warant i bobl ifanc, ond drwy is-bwyllgor y Cabinet ar yr argyfwng costau byw hefyd. Fe glywsom ni ychydig wythnosau yn ôl gan bobl ifanc—ac fe wnes i'r pwynt hwn, rwy'n credu, yn y pwyllgor, pan oeddech chithau yno hefyd. Roedden nhw'n siarad yn uniongyrchol iawn am eu profiadau eu hunain, am effaith wirioneddol y newidiadau i reolau budd-daliadau, ac effaith wirioneddol yr argyfwng costau byw arnyn nhw eu hunain, a'r dewisiadau yr ydym ni'n clywed amdanyn nhw'n llawer rhy aml—y dewis rhwng gwresogi, bwyta, a'r hyn a wna hynny i'w llesiant corfforol nhw'n ogystal â'u hiechyd meddwl a'u llesiant hefyd yn fwy cyffredinol. Dyma sy'n cael ei gadarnhau ym mhob arolwg o bobl ifanc ledled Cymru a'r DU yn fwy eang: mae her sylweddol yn codi o ran iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc wedi'r pandemig, ac sy'n cael ei hatgyfnerthu gan heriau'r argyfwng costau byw. Yn sicr, dyna un o'r pethau yr ydym ni'n ceisio eu hystyried yn yr hyn a wnawn ni, oherwydd mae bod â chyflogaeth, addysg neu hyfforddiant yn nodwedd amddiffynnol i helpu i gefnogi iechyd meddwl da a llesiant i bobl ifanc. Mae hynny'n cyffwrdd wedyn â'ch pwynt chi hefyd ynglŷn â chyflog teg.
Ac, edrychwch chi, o ran Twf Swyddi Cymru+, nid ydym ni'n awgrymu mai'r arian yr ydym ni'n ei ddarparu yw'r unig arian a ddylai fod ar gael; cymhorthdal cyflog ydyw i helpu i'w gwneud hi'n fwy deniadol i bobl ifanc fod â chyfle ym myd gwaith, ac mae dros hanner y bobl sy'n cael mynediad i Twf Swyddi Cymru+ yn cael canlyniad cadarnhaol ar ddiwedd hynny, boed hynny'n waith neu hyfforddiant pellach, neu, yn wir, ystyried y cyfleoedd o ran hunan-gyflogaeth. Y newyddion da yw eu bod nhw, yn yr adolygiad cychwynnol gan Estyn, yn gadarnhaol ynglŷn ag effaith y rhaglen honno.
Ynglŷn â'ch pwynt chi am y rhaniad rhwng dosbarthiadau cymdeithasol o ran cyflogau proffesiynol, rhwng gweithwyr proffesiynol dosbarth gweithiol a rhai eraill, fe fyddai hi'n ddefnyddiol, rwy'n credu, i chi anfon nodyn ataf i, efallai, er mwyn i mi ymateb yn llawn iddo, oherwydd rwy'n awyddus i ddeall a yw'r pwynt yr ydych chi'n ei wneud yn ymwneud â pha mor hawdd yw dod o hyd i gyfleoedd, pan wyddom ni, i lawer o broffesiynau, pwy yr ydych yn ei adnbaod sy'n bwysig iawn—nid yn unig y graddau a gewch chi, ond pwy rydych chi'n ei adnabod er mwyn cael cyfle yn ymarferol, boed hwnnw'n brofiad gwaith neu'n gyfle ymarferol i ddechrau swydd hefyd—neu ai sôn yr ydych chi am ddechrau ennill cyflog yn dibynnu ar eich cefndir teuluol chi eich hunan, neu a ydych chi'n siarad am gynnydd trwy waith hefyd, oherwydd fe wn i, eto, o yrfa flaenorol yn ogystal â hon, fod y pethau hynny i gyd yn bwysig. Felly, fe fyddwn i'n dymuno deall pa bwynt yr ydych chi'n ei wneud cyn ymateb yn llawn i hwnnw.